Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday, 6 February 2015

Y Llyfr Rydw i’n ei Drysori







Y llyfr rydw i’n ei drysori, y deuthum o hyd i’m copi fy hunan ohono yn fachgen ifanc mewn siop ail-law yng Nghaerdydd, yw Wales: An Archaeological Guide gan Chris Houlder (Faber and Faber 1974). Y llyfr hwn, gyda’i ffotograffau, mapiau, cynlluniau ac arteffactau wedi’u pacio rywsut i fformat A5, wnaeth fy nghyflwyno i faes cyfan archaeoleg gynhanesyddol a Rhufeinig Cymru. Dyma’r llyfr a ddefnyddiais wrth fynd ar drywydd safleoedd archaeolegol ar ôl i mi ddysgu gyrru. Roedd yn amhrisiadwy. Dim ond unwaith y cyfarfûm â Chris Houlder, pan ddechreuais weithio yn y Comisiwn Brenhinol yn y 1990au, a chefais gyfle bryd hynny i ddweud wrtho pa mor werthfawr yr oedd y llyfr bach hwn wedi bod.

Dr Toby Driver FSA, Archaeolegydd, Y Comisiwn Brenhinol


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin