![]() |
Pont Llanelltud (NPRN 95424) c.1830, dyfrlliw, DI2015_0070 |
Bu’r cyhoedd yn hael eu rhoddion i Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ers erioed, ond ychydig iawn o eitemau sy’n teithio o ben draw’r byd i gael eu cynnwys yn ein casgliadau o archifau. Yn fwy na hynny, mae’r llun dyfrlliw hyfryd hwn o Bont Llanelltud wedi gwneud y daith ddwywaith bellach. Oherwydd rhodd hynod o garedig Avril Stott a David Haigh o Auckland yn Seland Newydd, mae’n bleser mawr gennym ychwanegu’r gwaith hwn at ein casgliadau a rhoi cyfle i’r cyhoedd ei weld. Ni wyddom sut yr aeth y paentiad yr holl ffordd i Seland Newydd yn y lle cyntaf, ond credwn iddo gael ei beintio ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n nodweddiadol o’r math o ddelweddau a gâi eu peintio gan dwristiaid bonheddig a ymwelai â Chymru yn ystod y cyfnod hwn.
Mae pum bwa eliptigol gan y bont, sy’n agos at Ddolgellau, a’r gred yw ei bod hi’n dyddio o ail chwarter y ddeunawfed ganrif a’i bod o bosibl wedi cymryd lle pont gynharach o’r Canol Oesoedd. Mae’r paentiad yn dangos y bont o’r de a gwelwn bentref Llanelltud yn glir yn y cefndir, a thŵr Eglwys Sant Illtud yn amlwg ymysg y coed. Cafodd pont goncrit newydd ei chodi yn y 1980au i gario traffig trymach, ond mae’r bont yn dal i gael ei defnyddio i groesi’r afon ar droed.
![]() |
Pont Llanelltud o’r de-orllewin, 2008, DS2008_004_003 |
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rydym hefyd ar gael ar:






Twitter Hashtag: #RCAHMWales