Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English
Showing posts with label Comisiwn Brenhinol Swyddi Gwag. Show all posts
Showing posts with label Comisiwn Brenhinol Swyddi Gwag. Show all posts

Monday, 14 March 2016

Prentis Sylfaen: Gweinyddiaeth Swyddfa







Dyddiad Ago: 14 Mawrth 2016
Dyddiad Cau: 28 Mawrth 2016
Lleoliad: Aberystwyth

Disgrifiad o'r Swydd: Cynllun Prentisiaeth 2016

Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw’r Comisiwn Brenhinol. Byddwn yn gwneud gwaith ymchwil a chofnodi ym meysydd archaeoleg, adeiladau, tirweddau ac olion arforol o’r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw. Gofalwn am y Cofnod Henebion Cenedlaethol, sef archif amgylchedd hanesyddol parhaol Cymru sy’n cynnwys mwy na 2 filiwn o ffotograffau, lluniadau, a dogfennau a data digidol eraill. Byddwn hefyd yn helpu pobl i ddysgu am ein treftadaeth gyfoethog drwy gyhoeddi llyfrau a dogfennau eraill a thrwy fynd i sioeau a digwyddiadau. Byddwn yn rhoi sgyrsiau a darlithiau a byddwn hefyd yn rhoi cyngor a gwybodaeth ddiduedd i helpu pobl i reoli’r amgylchedd hanesyddol mewn ffordd gynaliadwy a moesegol. Mae ein swyddfeydd yn Aberystwyth a chyflogwn tua 30 o staff. Mae ein gwaith yn cwmpasu Cymru gyfan.
Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi ymrwymo i fuddsoddi yng ngweithlu Cymru at y dyfodol. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn rydym ni’n cynnig cyfle i berson ifanc rhwng 16 a 24 oed i feithrin sgiliau a gwybodaeth ym meysydd cyllid a gweinyddiaeth swyddfa gyffredinol mewn sefydliad treftadaeth cenedlaethol. Bydd y cynllun hwn yn rhoi cyfle i berson ifanc ennill cymhwyster cydnabyddedig a sgiliau marchnadwy tra’n ennill cyflog.
Bydd prentis yn y Comisiwn Brenhinol yn derbyn cyflog o £12,000 y flwyddyn.

Pa hyfforddiant fydd yn cael ei ddarparu?
Byddwch chi’n cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes sy’n cynnwys cymhwyster NVQ lefel 2, ynghyd â chymwysterau cysylltiedig eraill. Cewch bob cymorth yn y gweithle i feithrin y sgiliau allweddol, cymhelliant a phrofiad a fydd yn eich rhoi chi mewn sefyllfa well i gael swydd yn y farchnad swyddi gystadleuol.

Am faint y bydd y brentisiaeth yn para?
Bydd y brentisiaeth yn para am gyfnod o 15 mis.

Sut mae gwneud cais?
 Mae’r cynllun ar agor i geisiadau o 14 Mawrth hyd 28 Mawrth 2016.  Gallwch wneud cais drwy lawrlwytho ffurflen gais o’n gwefan: www.cbhc.gov.uk
Ar ôl llenwi’r ffurflen gais, bydd angen ei dychwelyd i’n Rheolwr Adnoddau Dynol cyn y dyddiad cau drwy e-bost at sue.billingsley@cbhc.gov.uk neu drwy’r post i CBHC, Adeilad y Goron, Plas Crug, Aberystwyth, Ceredigion.  SY23 1NJ.  Nid ydym ni’n derbyn CVs.
Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, byddwch cystal â chysylltu â’n Rheolwr Adnoddau Dynol drwy e-bostio neu ffonio 01970 621228

Graddfa Cyflog: WG Pay Scale
Cyflog: £12,000 per annum
Hyd y cytundeb: 15 month

Dogfennau sy'n ymwneud â swydd benodol:
http://www.cbhc.gov.uk/HI/CYM/Amdanom+Ni/Gweithio+yn+CBHC/Swyddi+sy%27n+Wag+ar+hyn+o+bryd/?vaca=43


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
• Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

Wednesday, 3 June 2015

Cyfleoedd Swyddi yn y Comisiwn





 
 
Mae’r Comisiwn Brenhinol, a fu mewn bodolaeth ers 106 o flynyddoedd, yn chwilio am staff i lenwi tair rôl bwysig i gefnogi datblygiadau yng ngham nesaf ei hanes.
 
 
Y Comisiwn Brenhinol, sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth, yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ni sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a byddwn yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, un o’r tri ‘chasgliad cenedlaethol’, yw ein prif ased. Ceir yn hwn fwy na 1.25 miliwn o ddelweddau o amgylchedd hanesyddol Cymru, ynghyd â dogfennau testun, gweithiau celf a channoedd ar filoedd o gofnodion eraill.
 
Mae’r tair swydd hon yn hanfodol i’n hymdrechion i sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein cyfrifoldebau i bobl Cymru, ein Gwarant Frenhinol a Llywodraeth Cymru, drwy wneud Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru mor hygyrch â phosibl. Bydd gan yr ymgeiswyr delfrydol ddiddordeb brwd yn hanes Cymru, a byddant wrth eu bodd yn cyfrannu at ein gwaith gyda’r cyhoedd.
 
  
Amrediad Cyflog £22,400 - £25,750
37 awr yr wythnos – penodiad parhaol
 
Amrediad Cyflog £22,400 - £25,750
37 awr yr wythnos – penodiad parhaol
 
Amrediad Cyflog £17,200 - £20,950
37 awr yr wythnos – penodiad parhaol
 
(Bydd yr holl benodiadau ar neu’n agos at y cyflog lleiaf ar gyfer y band cyflog)
 
 
Gellir cael ffurflen gais a manylion pellach gan:-

Mr S Bailey John                           
Y Comisiwn Brenhinol                 
Plas Crug                                               
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1NJ

 Ffôn: 01970 621230
 Ffacs: 01970 621246
 e-bost: stephen.bailey-john@rcahmw.gov.uk
                                   
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16:00 ar 19 Mehefin 2015. 
 
 
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn gyflogwr cyfle cyfartal.
 
 
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

LinkWithin