Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) yw’r casgliad cenedlaethol o
wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru, o’r aneddiadau cynharaf mewn
ogofeydd hyd at ffermydd gwynt yr 21ain ganrif. Mae ynddo dros 1.25
miliwn o ffotograffau a miloedd lawer o luniadau, arolygon, adroddiadau a
mapiau. Bydd yr archif yn tyfu o ddydd i ddydd wrth i wybodaeth gael ei
chasglu’n uniongyrchol drwy raglenni ymchwil ac arolygu’r Comisiwn
Brenhinol ac oherwydd rhoddion o ddeunydd gan sefydliadau eraill ac unigolion.
Gellir cyrchu’r archif drwy Coflein neu drwy gysylltu â’n gwasanaeth ymholiadau.
Mae’r gwasanaeth hwnnw, sy’n rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd, yn tynnu ar
ffynonellau archifol a chyhoeddedig ac ar gyngor arbenigol staff y
Comisiwn Brenhinol.
Coflein yw
cronfa ddata ar-lein gyhoeddus y Comisiwn Brenhinol. Mae’n cyfuno
gwybodaeth am safleoedd ac adeiladau archaeolegol o bob cyfnod â
gwybodaeth o gatalogau’r casgliadau yn archif CHCC. Gellir gweld mwy a
mwy o archifau a’u llwytho i lawr yn uniongyrchol o Coflein.
Mae porth ar-lein cyhoeddus, Cymru Hanesyddol yn cael ei ddatblygu i
ganiatáu chwilio ar draws y cronfeydd data sydd wedi’u creu gan y
sefydliadau eraill yng Nghymru sy’n ymwneud ag agweddau ar yr amgylchedd
hanesyddol. Ar hyn o bryd, CARN (Y Mynegai Creiddiol i Gofnodion
Archaeolegol) yw mynedfa’r cyhoedd i’r Gronfa Ddata Genedlaethol
Estynedig a gasglwyd gan sefydliadau archaeolegol ledled Cymru.