Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English
Showing posts with label Ffotograffiaeth o'r awyr. Show all posts
Showing posts with label Ffotograffiaeth o'r awyr. Show all posts

Tuesday, 22 March 2016

Ein Casgliad o Brintiau Mawr Arolwg Ordnans

Dyma’n blog cyntaf eleni yn gofyn am gymorth i adnabod lleoliad un o’n printiau Arolwg Ordnans mawr.

Mae’r ffotograff yn dangos ardal wledig, gyda nifer o ffermydd eithaf mawr yma ac acw. Mae prif ffordd “A” neu ffordd “B” allweddol yn rhedeg ar draws canol y llun, ac mae ffordd fach yn ymuno â hi ar ongl, ger pentrefan bach. Mae sied fawr ger y gyffordd, ac ychydig o gerbydau wedi’u parcio yn yr iard.

Mae rhan o’r llun wedi’i chwyddo yma. Fe welwch linell rybuddio ar hyd canol y lôn.

Ydych chi’n gwybod ble mae hyn? Os ydych, rhowch wybod i ni.

Gan Medwyn Parry

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Friday, 18 December 2015

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

Ysblander anghysbell: llun gaeafol o Gastell Carreg Cennen, Sir Gâr, a godwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg; tynnwyd y llun gan y Comisiwn Brenhinol yn 2009. NPRN: 103970

Coflein: http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/103970/manylion/CARREG+CENNEN+CASTLE/

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Tuesday, 15 December 2015

Pos Awyrlun Mis Rhagfyr

Dyma ddau ffotograff fertigol o’n casgliadau o awyrluniau a dynnwyd gan y Llu Awyr Brenhinol yn rhan olaf y 1940au. Maen nhw’n dangos dau bentref bach yng Nghymru, gyda chryn bellter rhyngddynt, ond wedi’u cysylltu gan stori adnabyddus iawn.

Ydych chi’n gwybod ble maen nhw?

Cyn gynted ag y darganfyddwch beth yw enw un, dylech allu enwi’r llall yn syth.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Monday, 7 December 2015

Y Diweddaraf am ein Casgliad o Brintiau Mawr Arolwg Ordnans

Yn ystod yr wythnosau diwethaf buom yn gofyn i’n darllenwyr ein helpu i adnabod aneddiadau yr oedd yr Arolwg Ordnans wedi tynnu ffotograffau ohonynt.

Mae’r postiadau hyn wedi bod yn eithriadol o boblogaidd, ac mae canlyniadau ein hapeliadau am wybodaeth wedi dangos mor rymus yw’r cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd y ffotograff cyntaf ei adnabod mewn ychydig dros 24 awr gan Kokoro Kimochi fel ardal Saint Mary Hill ger Pen-y-bont ar Ogwr. Fe’i tynnwyd ar y 13eg o Fai 1992 ar uchder o 8,000 troedfedd, ffilm 92-093, ffrâm 032.

Saint Mary Hill ger Pen-y-bont ar Ogwr

Cafodd ein hail gais am wybodaeth ei ateb mewn cwta 46 munud ar ôl postio’r llun ar wefan Treftadaeth Cymru. Rhoddodd Steve Bailey John wybod i ni fod y ffotograff yn dangos Jameston yn Ne Penfro. Ar ôl edrych yn ein cofnodion, cadarnhawyd i’r llun gael ei dynnu ar yr 2il o Chwefror 1989, ar uchder o 5,300 troedfedd, ffrâm 026 o ffilm 89-247.

Jameston yn Ne Penfro

Fe gymerodd ychydig o ddyddiau i ddarllenwyr ein Blog ddatrys dirgelwch y trydydd ffotograff. Cafodd ei enwi fel pentref Pentre-bach, i’r gorllewin o Lanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion. Mae ein cofnodion yn dangos i’r llun gael ei dynnu ar uchder o 8,100 troedfedd ar y 6ed o Fai 1993, ffrâm 086 o ffilm 93-134.

Pentre-bach, i’r gorllewin o Lanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion

Diolch i bob un ohonoch am eich diddordeb a’ch cymorth.

Gan Medwyn Parry.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Wednesday, 25 November 2015

Ordnance Survey Large Print Collection at the National Monuments Record of Wales

Our first blog requesting assistance in identifying the location of one of our Ordnance Survey large prints was solved by one of our Facebook followers in a little more than 24 hours. The second puzzle was solved in only 46 minutes from when the item was posted on-line - an amazing result.

Our latest brain-teaser may take a little longer. The photograph is of a rural area, with a small collection of houses on a main road. A few farms can be seen, and in the top-right portion of the frame there is a sharp bend in a river.

Can you identify where this is? If so, please let us know.

By Medwyn Parry

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Tuesday, 10 November 2015

Adnabod Llun Arall yn ein Casgliad o Brintiau Mawr Arolwg Ordnans

Mewn blog diweddar fe ofynnom ni am gymorth i adnabod lleoliad un o’n printiau mawr Arolwg Ordnans. Cafodd y dirgelwch ei ddatrys i ni gan un o’n dilynwyr Facebook mewn ychydig dros 24 awr. Y safle oedd St Mary Hill, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Ar sail hyn, roeddem yn gallu darganfod cyfeirnod y ffilm, sef 92-093, ac i’r llun gael ei dynnu ar uchder o 8,000 o droedfeddi ar 13 Mai 1992.

Rydym yn awr wedi darganfod ardal anhysbys arall. Y cyfan a wyddom yw mai 026 yw rhif y ffrâm ac i’r llun gael ei dynnu yn y 1990au mae’n debyg. Mae’n ymddangos bod priffordd yn rhedeg drwy’r pentref. Mae yna reilffordd untrac gerllaw.

Ydych chi’n gwybod ble mae’r lleoliad hwn? Os ydych, rhowch wybod i ni!

LinkWithin