|
Ar ôl i’r Comisiwn Brenhinol adleoli’n llwyddiannus i swyddfeydd newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’n dda gennym gyhoeddi y bydd y Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil newydd yn agor i’r cyhoedd ar 6 Gorffennaf 2016. Gallwch ddod o hyd i ni yn y Llyfrgell Genedlaethol ger Ystafell Ddarllen y Gogledd. Yma, unwaith eto, bydd ymwelwyr yn gallu pori yn ein casgliad unigryw o lyfrau, cylchgronau a mapiau a gweld deunydd o’r archif. Bydd y gwasanaeth ymholiadau yn ailddechrau ar 6 Gorffennaf. Ewch i’n gwefan i ddarganfod sut i wneud ymholiad. Edrychwn ymlaen at eich croesawu. Oriau Agor i’r Cyhoedd Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau, Dydd Gwener: 09.30 – 16.00 Dydd Mercher: 10.30 – 16.30 I gael y newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf ewch i’n blog, Newyddion Treftadaeth Cymru, ein tudalen Facebook neu dilynwch ni ar Twitter @RCAHMWales, @RC_Archive, @RC_Survey ac @RC_Online1. |
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rhannu ar:
• Twitter • Facebook • Google+ • Linkedin
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales




.jpg)
