Wel, os yw llun yn werth mil o eiriau, beth yw gwerth map? Beth am gael cip ar
Railways of Great Britain: A Historical Atlas gan y Cyrnol M H Cobb. Mae gan hwn, fy hoff lyfr yn llyfrgell y Comisiwn Brenhinol, 646 o fapiau sy’n dangos yr holl reilffyrdd teithwyr ym Mhrydain Fawr ynghyd â’r cwmnïau a oedd yn berchen arnynt a dyddiadau agor a chau pob gorsaf a lein, y cyfan wedi’i luniadu dros fap sylfaenol Arolwg Ordnans. Os ydych chi’n gwirioni ar y math yma o beth – ac mi rydw i! – mae’n adnodd hanesyddol gwych i’w gael mewn un lle ac mae’n cynnig oriau maith o bori pleserus.
Ac i wrandawyr Radio 4: ynghyd â’r Beibl a gweithiau Shakespeare, llyfr Cobb fyddai fy newis i pe cawn fy llongddryllio ar ‘Ynys Anghyfannedd’.
Brian Malaws, Swyddog Datblygu Cynnwys, Y Comisiwn Brenhinol
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.