Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English
Showing posts with label Chwaraeon Treftadaeth Cymru. Show all posts
Showing posts with label Chwaraeon Treftadaeth Cymru. Show all posts

Thursday, 6 June 2013

Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales





Cefnogwyr yn ffarwelio â Pharc yr Arfau, Caerdydd, cyn iddo gael ei ddymchwel ym 1997.
(DI2006_1049, nprn 3064) © Hawlfraint y Goron: CBHC

“Mae pob pafiliwn neu dŷ clwb wedi gorfod ymladd i gael ei adeiladu ac mae pob clwb wedi wynebu ei frwydr ei hun i oroesi. Dyma pam ein bod ni’n coleddu ein meysydd chwarae ac yn eu hamddiffyn yn ffyrnig.” Eddie Butler

“Gallai testun Dr Leeworthy fod wedi sefyll ar ei ben hun, heb ei addurno, ond mae’n dod i ni mewn cyfrol sy’n llawn lluniau trawiadol. Mae’n cyflwyno i ni enghraifft glasurol o sut y gall darluniau fod cyn bwysiced â thestun a sut y mae’r ddau yn gweithio gyda’i gilydd i gloi dadleuon ac i ddwysáu ein dealltwriaeth o thema.” (Peter Stead, Morgannwg, cyfrol 56)


Yn yr unfed ganrif ar hugain mae llawer ohonom yn cymryd parciau, meysydd chwarae a chanolfannau hamdden yn ganiataol. Ond y tu ôl i bob un mae hanes o frwydro – yn erbyn anawsterau mawr yn aml – a dymuniad pobl o bob cefndir i greu rhywbeth gwell i’r dyfodol. Mae Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales yn olrhain yr hanes ac yn edrych ar effaith chwaraeon ar dirwedd Cymru fodern.

Mae’n ystyried yr amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon, o’r parc cyhoeddus cynharaf a agorwyd ym 1858 yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, i bwll nofio Llwyn Onn yn Wrecsam a agorwyd ym 1854, i’r tiroedd lles niferus a sefydlwyd ar draws Cymru ar droad yr ugeinfed ganrif. Rhoddir sylw i leoliadau chwaraeon llai hysbys, megis y llawr troed-rolio Americanaidd yng Nghaerdydd a adeiladwyd ym 1908, stadiwm rasio milgwn Welsh White City o 1928 a’r Stadiwm Rasio Beiciau Modur byrhoedlog yn Heol Penarth yn y 1950au.

Mae gweithgareddau llai adnabyddus megis y rasys Powderhall, pêl-wthio, pêl-fas a rasys dringo mynyddoedd mewn ceir i gyd yn cael sylw, ochr yn ochr â’r campau mawr – rygbi, pêl-droed a chriced – sy’n tra-arglwyddiaethu heddiw a datblygiad caeau chwarae antur a chanolfannau hamdden.

Trafodir hefyd dreftadaeth chwaraeon Cymru yn fwy cyffredinol, mewn pennod ar rôl cefn gwlad fel iard chwarae genedlaethol sy’n edrych ar yr isadeiledd a grëwyd wrth i feicio, cerdded y mynyddoedd a hosteli ieuenctid ddod yn fwy poblogaidd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Ceir yn Fields of Play 172 o ffotograffau hanesyddol a chyfoes gwych, gan gynnwys llawer o ddelweddau sydd heb eu gweld o’r blaen o archif Aerofilms yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae’r gyfrol yn dadansoddi ac yn adrodd hanes yr agwedd hynod bwysig hon ar dreftadaeth adeiledig Cymru a bydd yn siŵr o gynyddu ein gwerthfawrogiad o leoedd chwaraeon yn y dirwedd.

Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales
Pris y llyfr yw £14.95 ac mae ar gael gan y Comisiwn Brenhinol ac ym mhob siop lyfrau dda.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Thursday, 30 August 2012

Ar Eich Marciau! Parod! EWCH! ― Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales





Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales
(ISBN 978-1-87118-445-7)

Bu disgwyl mawr am gyhoeddiad diweddaraf y Comisiwn Brenhinol, Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales, a gyrhaeddodd heddiw. Cyhoeddwyd y llyfr i nodi’r flwyddyn Olympaidd 2012 ac mae’n llawn lluniau gwych gan gynnwys llawer o ddelweddau o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi o’r blaen. Drwy astudio’r amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon o barciau cyhoeddus a phyllau nofio awyr agored i feysydd chwarae a stadia, a rôl cefn gwlad fel iard chwarae genedlaethol, mae’r llyfr hwn yn sicr o feithrin dealltwriaeth ddyfnach o leoedd chwaraeon yng Nghymru.

Bydd y llyfr ar gael i bawb yn gynnar yr wythnos nesaf am bris o £14.95 yn unig gan gynnwys cludiant (y DU yn unig). Ffoniwch y Comisiwn Brenhinol ar 01970 621200 neu ewch i’n gwefan www.cbhc.gov.uk i archebu copi. Gall Cyfeillion brynu copi o’r llyfr am y pris arbennig o £13.50 yn unig gan gynnwys cludiant (y DU yn unig). Byddwch cystal â dyfynnu Cyfeillion y Comisiwn Brenhinol  wrth roi eich archeb.

Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales
(ISBN 978-1-87118-445-7)



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News
 Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

On Your Marks, Get Set, GO! - Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales





Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales
(ISBN 978-1-87118-445-7)

The Royal Commission’s latest and eagerly-awaited publication, Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales arrived today. Published to mark the 2012 Olympic year, this book is superbly illustrated with numerous previously unpublished images from the National Monuments Record of Wales. Exploring the diversity of sporting facilities from public parks and open-air swimming baths to welfare grounds, stadiums, and the role of the countryside as a national playground, this book will undoubtedly encourage a greater appreciation of sporting places in the Welsh landscape.

This book will be available to all from early next week at only £14.95 with free p&p (UK only) from the Royal Commission on 01970 621200 or via our website www.rcahmw.gov.uk. Friends can buy a copy of this book at the special discounted price of only £13.50 including p&p (UK only). Please quote ‘Friends of the Royal Commission’ with your order.

Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales
(ISBN 978-1-87118-445-7)


Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RSS button and subscribe!

Also find us on: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

LinkWithin