Fel rhan o ddigwyddiadau
Gŵyl Archaeoleg Prydain eleni, bydd y Comisiwn Brenhinol yn mynychu ffair haf Ysgol Llwyn yr Eos ar Ddydd Sadwrn, 13 Gorffennaf, yr un diwrnod ag y bydd Dr Toby Driver yn
arwain taith gerdded i Ben Dinas, y gaer o Oes yr Haearn. Mae’r ysgol ger y Neuadd Goffa, Penparcau, lle bydd y daith yn gorffen. Trefnwyd y ffair i ddathlu pen-blwydd yr ysgol gynradd, Ysgol Llwyn yr Eos, yn drigain oed ac fe fydd gweithgareddau rhwng canol dydd a 9 o’r gloch y nos. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys arddangosiadau gan y grŵp ail-greu hanesyddol Normannis, sioe gŵn, dawns stryd, paffio ac ymarfer paffio, corau, a llawer mwy. Bydd y
Comisiwn Brenhinol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i’r plant drwy gydol y dydd, gan gynnwys gweithgaredd difyr iawn wedi’i seilio ar gopïau o’r mapiau modern a hanesyddol o Aberystwyth sydd ym meddiant y Comisiwn a chwilen symudol raglenadwy o’r enw Bee-Bot! Dewch atom yn llu i ddarganfod mwy.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Nicola Roberts, Ffôn: 01970 621248, neu
Fforwm Cymunedol Penparcau, Ffôn: 01970 611099.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn

a
thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:

Twitter Hashtag: #RCAHMWales