Bydd arddangosfa o’r enw Gweledigaethau o Le: Hanes Cofnodi Aneddiadau Cynlluniedig gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, 18 Ebrill – 4 Mai, fel rhan o’r Ŵyl Bensaernïaeth Cymru gyntaf erioed. Bydd yr arddangosfa hon yn ymdrin â Mudiad y Gardd-Bentref, Tai Parod Casnewydd, Herbert North: Pensaer Celfyddyd a Chrefft, John Nash a’r Pictiwrésg, ac Eco-dai ac fe’i hategir gan ddelweddau hardd o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, y mae llawer ohonynt ar gael am ddim ar Coflein.
Nod yr Ŵyl newydd hon yw symbylu trafodaeth am bensaernïaeth. Bydd yr Ŵyl yn darparu fforwm ar gyfer penseiri, cynllunwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, a’r cyhoedd, i rannu eu barn a’u gwybodaeth am yr amgylchedd adeiledig mewn rhaglen eang ei chwmpas o sgyrsiau, ffilmiau, gweithdai ac arddangosfeydd. Dau o uchafbwyntiau’r Ŵyl fydd gweithdy cerameg bensaernïol deuddydd gyda Gwen Heeney, a noson o bensaernïaeth a barddoniaeth gyda’r Bardd Llawryfog, Carol Ann Duffy a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke. Gan ymestyn dros gyfnod o chwe wythnos, mae’n siŵr y bydd yr Ŵyl hon – y gyntaf o’i bath yng Nghymru – yn ysgogi trafodaeth am rôl arbennig pensaernïaeth yng Nghymru, ac yn cynnig rhywbeth i bawb.
I gael manylion pellach, cysylltwch â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this
Also find us on:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
