Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni ar brosiectau treftadaeth? Sut mae’r ffynonellau’n cael eu hel at ei gilydd a sut maen nhw’n cael eu prosesu i ddod yn brosiect y gall pawb gymryd rhan ynddo?
Wel dyma gyfle i chi gael gweld beth sy’n digwydd!
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn cynnig cyfle i bobl ddarganfod mwy am y prosiect Prydain Oddi Fry, casgliad ar-lein o awyrluniau hanesyddol o Gymru, Yr Alban a Lloegr a dynnwyd rhwng 1919 a 1953, ac sydd bellach ar gael i bawb eu mwynhau a rhannu atgofion amdanynt.
Ar 20 Tachwedd, bydd y Comisiwn Brenhinol yn agor ei ddrysau fel y gall pobl ddarganfod beth mae’r Comisiwn yn ei wneud. Fe fydd sgyrsiau, taith drwy’r archif a chyfle i weld rhai o’r albymau Aerofilims o Gymru.
Bydd y prif ddigwyddiadau’n dechrau am 2:30pm ac yn mynd ymlaen tan 5pm. Yna bydd seibiant am de, wedi’i ddilyn gan sgwrs am 6pm gan Dr Toby Driver ar Light, Landscape and Lasers - Revealing the Heritage of Wales from the Air, a mins-peis a phwnsh twym wedyn.
Dylai fod yn brynhawn i’w gofio ond mae nifer cyfyngedig o leoedd, felly cadwch eich lle drwy ffonio 01970 621200 neu e-bostio Natasha.scullion@cbhc.gov.uk.
Gan Natasha Scullion
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.