Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English
Showing posts with label Adeilad Rhestredig. Show all posts
Showing posts with label Adeilad Rhestredig. Show all posts

Thursday, 22 May 2014

Y Comisiwn Brenhinol yn Dychwelyd i Gastell y Gelli ar gyfer Gŵyl y Gelli 2014





Llun o Gastell y Gelli, yn dangos y castell o’r drydedd ganrif ar ddeg (chwith) a’r plasty o’r ail ganrif ar bymtheg (de)
Mae Castell y Gelli (NPRN:25593) wedi’i leoli yng nghanol y Gelli Gandryll, cartref Gŵyl Lenyddol y Gelli a gynhelir bob blwyddyn. Mae’r ŵyl, sydd bellach yn ei 27ain flwyddyn, yn para am 10 diwrnod ac yn denu awduron, artistiaid a pherfformwyr o bedwar ban byd. Caiff ei chynnal o 22 Mai hyd 1 Mehefin eleni.

Yn 2011, cafodd Castell y Gelli, sy’n adeilad rhestredig Gradd I, ei drosglwyddo i berchenogaeth elusen gofrestredig, Ymddiriedolaeth Castell y Gelli. Nod yr Ymddiriedolaeth, drwy weithio gyda Cadw a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yw sicrhau bod y safle’n cael ei ddiogelu’n barhaol. Prosiect cymunedol yw hwn sy’n hybu proses o ailddarganfod, gwarchod ac adfer gyda’r bwriad o adfywio’r castell a’i droi’n ganolfan ar gyfer diwylliant, celf, crefft ac addysg. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cynnal teithiau drwy’r castell yn ystod yr ŵyl eleni. Bydd Richard Suggett, Uwch Ymchwilydd y Comisiwn Brenhinol, yn arwain teithiau (sydd eisoes wedi’u bwcio’n llawn) ar Ddydd Gwener 23 Mai a Dydd Sadwrn 31 Mai.

Wedi’i leoli ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yr hyn sy’n gwneud Castell y Gelli yn anarferol yw bod rhywun wedi byw ynddo’n ddi-dor ers 800 o flynyddoedd. Cafodd ei godi yn y ddeuddegfed ganrif a dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafodd ei adael yn wag. Ystyrir ei fod yn un o’r safleoedd aml-gyfnod pwysicaf ar yr ochr Gymreig i’r ffin. Mae’r castell canoloesol wedi goroesi, ac mae’r porth o’r drydedd ganrif ar ddeg a’r gatiau pren cynnar yn dal yn gyfan. Y gatiau pren, gyda’u cleddyfau croes gwreiddiol, yw un o dair neu pedair enghraifft sydd wedi goroesi ym Mhrydain.
 
Castell y Gelli: y porth o’r drydedd ganrif ar ddeg a’r gatiau pren cynnar


Cafodd Tŷ’r Castell, plasty Jacobeaidd o’r ail ganrif ar bymtheg, ei adeiladu gydag ochr gorthwr y castell. Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi dyddio’r coed yn y tŷ tri-llawr drwy gyfrif blwyddgylchau, ac wedi darganfod iddo gael ei godi ym 1636. Er gwaethaf dau dân yn yr ugeinfed ganrif, mae’r adeiladwaith yn parhau’n gadarn.


Tŷ’r Castell a gorthwr pedwar-llawr y castell

Wrth i’r gwaith ailddarganfod fynd yn ei flaen, mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod gan y castell lawer o nodweddion pensaernïol pwysig iawn, ac unigryw efallai. Bydd y muriau’n cael eu cyfnerthu, a’r nod yw atgyweirio yn hytrach nag adnewyddu. Mae’n galondid gweld bod nodweddion hanesyddol y castell yn cael y fath ofal a bod yr adeilad a’r tiroedd unwaith eto yn dod yn ganolbwynt i’r gymuned leol.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales





Share this post:

Friday, 26 April 2013

Dolbelydr: Penwythnos Agored, 26-29 Ebrill





Llun o du allan Dolbelydr a dynnwyd gan y Comisiwn Brenhinol ym 1950.
Mae Dolbelydr, ger Llanelwy, ar agor i’r cyhoedd y penwythnos hwn, 26-29 Ebrill, a chynhelir arddangosiadau Caligraffeg ar Ddydd Sadwrn y 27ain a Dydd Sul yr 28ain. Cafodd Dolbelydr, sy’n eiddo i’r Landmark Trust bellach, ei adfer yn llwyr yn 2003. Mae’r adeilad, gyda’i simneiau talcen uchel a’i waliau gwyngalchog, yn enghraifft ysblennydd o dŷ bonedd lloriog o’r unfed ganrif ar bymtheg. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg roedd Dolbelydr yn gartref i gangen o’r teulu Salusbury o Leweni, ac yn ddiweddarach i Henry Salesbury (1561-1632/7), y gramadegydd o Gymro a ysgrifennodd ei "Grammatica Britannica" yno ym 1593. Mae’n debyg mai iddo ef y cafodd yr adeilad presennol ei adeiladu. Bu’r tŷ yn ffermdy gyda thenant drwy gydol y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond bu’n wag o 1910 hyd nes iddo gael ei adfer gan y Landmark Trust. Gall y rheiny sydd â diddordeb ym mhensaernïaeth yr adeilad weld adluniadau yn Houses of the Welsh Countryside, tudalen 246, ffigur 137. Mae cyfoeth o wybodaeth yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru – 74 o Gofnodion Casgliad – am y tŷ pwysig hwn sydd, ar sail blwyddgylchau, wedi cael ei ddyddio i oddeutu 1578, a chafodd ei gofnodi gan ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol ym 1950 a 1999. Mae llawer o ddelweddau ar gael ar Coflein erbyn hyn.

Golwg manwl o ddrws yn Nolbelydr, yn dangos agen y bar tynnu.

Coflein - Darganfod ein gorffennol ar-lein
Coflein yw cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru.
   
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

LinkWithin