![]() |
Louise Barker (yn pwyntio) yn gweithio gyda Swyddog Ymwelwyr Sgomer a gwirfoddolwyr o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru ar ymweliad diweddar ag Ynys Sgomer. |
![]() |
Tŷ crwn o’r Oes Haearn neu’r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig yn y Wick ar Ynys Sgomer. Golwg yn dangos y drws. |
Tua diwedd Mai, teithiodd Louise Barker a Toby Driver, archaeolegwyr y Comisiwn Brenhinol, i Sgomer i gyfarfod â Leighton Newman, Swyddog Ymwelwyr Sgomer, a Hannah, gwirfoddolwraig ers blynyddoedd, i siarad am archaeoleg yr henebion cynhanesyddol mwyaf gweladwy. Gobaith Leighton a Hannah yw adnewyddu rhannau o Lwybr Hanes Sgomer, a sefydlwyd gyntaf ar ôl gwaith a wnaed gan yr Athro John Evans yn y 1980au.
Mae un o’r tai crwn cynhanesyddol mwyaf hygyrch a thrawiadol yn Sir Benfro i’w weld yn y Wick, yn agos at un o’r prif wylfannau Palod. Gosodwyd arwydd newydd yno i ddangos safle’r tŷ. Gall ymwelwyr gerdded i mewn i sylfeini’r tŷ crwn, drwy ei borth amlwg, a dychmygu’r olygfa ddomestig o fewn ei furiau ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
![]() |
Un o’r arwyddion newydd sy’n gwahodd ymwelwyr i archwilio’r tŷ crwn cynhanesyddol yn y Wick. |
Gan Toby Driver, RCAHMW
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rhannu ar:
• Twitter • Facebook • Google+ • Linkedin
Rydym hefyd ar gael ar:






Twitter Hashtag: #RCAHMWales