Ddydd Sadwrn nesaf, 13 Hydref, bydd Rachael Barnwell, aelod o staff y Comisiwn Brenhinol, yn rhoi darlith ar Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru yn Ysgol Undydd Fforwm Treftadaeth Blaenau Gwent a gynhelir yn Nhŷ Bedwellte, Tredegar. Rhai o’r siaradwyr eraill fydd Ritchie Rudd, a fydd yn siarad am Ymosodiad y Frigâd Ysgafn, Andrew Taylor, Bargyfreithiwr, a fydd yn trafod Dau Achos Pwysig o Gamweinyddu Cyfiawnder yng Nghymru, a Bryan Davies, a fydd yn edrych ar y Dr William Price.
Bydd modd gweld arddangosfa deithiol y Comisiwn Brenhinol, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru, yn Nhŷ Bedwellte o 1 Tachwedd hyd 5 Ionawr 2013. Bydd yn dangos delweddau o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ochr yn ochr â gwrthrychau o gasgliadau Tŷ Bedwellte. Ategir yr arddangosfa gan lyfr y Comisiwn, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru, a gyhoeddir cyn bo hir, a fydd yn cynnwys 200 o luniau allweddol o’i archif enfawr.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales



