Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English
Showing posts with label Digidol Treftadaeth. Show all posts
Showing posts with label Digidol Treftadaeth. Show all posts

Thursday, 31 January 2013

Cymorth Torfol i Ddarganfod Hoff Adeilad Cymru





Mae Daniel Drave, myfyriwr israddedig sy’n dilyn cwrs Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn egluro ei waith gyda thîm Data a Thechnoleg y Comisiwn Brenhinol:
 
Fel y sawl sydd wedi datblygu’r rhaglen ffôn symudol a gwasanaeth gwefan My Favourite Building, rydw i wedi gallu ehangu fy ngwybodaeth o’r byd gwaith proffesiynol, gwella fy sgiliau rhaglennu cyfrifiadurol a chyfrannu i un o raglenni’r Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth. Yn swyddogol, rydw i’n gweithio ar leoliad gwaith gydag un o adrannau polisi Llywodraeth Cymru, sef CyMAL: Amgueddfeydd, Archifdai a Llyfrgelloedd, ac estyniad o hyn yw fy lleoliad gyda’r Comisiwn Brenhinol.

Dan yn gweithio ar y prosiect.
Cafodd y syniad o greu ‘app’ ffôn symudol cymorth torfol (crowd-sourcing) ym maes treftadaeth ddigidol, i gefnogi cyfraniadau defnyddwyr i wefan Casgliad y Werin Cymru, ei awgrymu i CyMAL gan Tom Pert, Rheolwr Datblygu Ar-Lein y Comisiwn Brenhinol. Gan fy mod i wedi meithrin sgiliau addas drwy astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cynigiais arwain y gwaith o ddatblygu’r app.

Hafan My Favourite Building.
Bydd yr app cymorth torfol yn caniatáu i ddefnyddwyr dynnu ffotograffau o’u hoff adeilad hanesyddol drwy ddefnyddio’r camerâu ar eu ffôn clyfar. Yna byddant yn gallu ychwanegu testun i esbonio pam mai hwn yw eu hoff adeilad a llwytho’r cofnod i fyny i wasanaeth gwe. Mae’r gwasanaeth gwe yn darparu rhyngwyneb defnyddiwr deniadol ar gyfer gweld eich cyfraniadau eich hun a chyfraniadau pobl eraill, ac mae’n cynnig mynediad i wasanaethau eraill, gan gynnwys rheoli proffiliau a chwiliadau cyflym. Bydd gweinyddwyr safleoedd neu arweinwyr prosiectau cymunedol lleol hefyd yn gallu creu prosiectau newydd, gan ganiatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho cynnwys newydd ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau. Enghreifftiau posibl o brosiectau o’r fath fyddai ‘Fy Nhafarn Leol’ neu ‘Fy Hoff Safle Treftadaeth’. Mae’r app yn hyblyg iawn a’r gobaith yw y caiff ei defnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd, o ddefnydd hamdden i weithdai addysgol.


Sgrin mewnbynnu data (chwith) a sgrin cofnod cyflawn (de) ar yr app My Favourite Building.

Mae’r gwaith datblygu bron wedi’i gwblhau a bydd prototeip o’r app a’r wefan ar gael i’w profi gan ddefnyddwyr erbyn canol Chwefror. Bydd yr app ar gael ar gyfer y system weithredu Android, ac mae’r wefan wedi cael ei hoptimeiddio ar gyfer Mozilla Firefox.

Os  hoffech chi wybod mwy am y prosiect My Favourite Building, mae croeso i chi gysylltu â: tom.pert@cbhc.gov.uk

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Tuesday, 29 January 2013

Creu Ymdeimlad Newydd o Le - Gorffennol Digidol 2013






Gall lledaenu canlyniadau ymchwil hanesyddol, a denu diddordeb y cyhoedd, elwa o reolaeth twristiaeth a chymorth sefydliadau diwylliannol sy’n gallu cynnig technolegau digidol newydd sy’n hybu ffyrdd difyr o wella profiad yr ymwelydd. Gall yr adnoddau hyn fod ar-lein neu ar y safle, ond mae’r ddau yr un mor bwysig a pherthnasol yn yr economi digidol byd-eang.


Bydd yr Athro Ray Howells o Ganolfan De Cymru ar gyfer Ymchwil Hanesyddol a Rhyngddisgyblaethol a Matt Chilcott, cyfarwyddwr datblygu ar gyfer twristiaeth ddigidol, dehongli a chynhwysiant y Grŵp Budd Cymunedol CMC2 ac ysgolhaig PhD yng Nghanolfan George Ewart Evans ar gyfer Adrodd Straeon, yn trafod eu profiadau o waith CDCYHRh ar greu amgylcheddau digidol ymgollol (immersive) a phrosiectau eraill.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Monday, 21 January 2013

Ymdeimlad o Wreiddiau Rhaglan - Gorffennol Digidol 2013





Bydd Dr Cheryl Morgan o Archifau Lleol Rhaglan yn rhoi sgwrs yng Nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013 am brosiectau digidol diweddaraf Grŵp Hanes Lleol Rhaglan a’r Cylch. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys:
  • Prosiect Adrodd Straeon Digidol - archif ddigidol o gofnodion lleol a chyfryngau digidol yn http://www.raglan-history.org.uk/: gweithio gyda grwpiau ieuenctid i ddigido a chatalogio 800 a rhagor o hen ffotograffau, mapiau, ewyllysiau a dogfennau eraill, a chreu straeon digidol.

  • Prosiect Ffyrdd Lleol Rhaglan - yn cysylltu Plant Ysgol Gynradd Rhaglan â phobl a fu’n byw yn yr ardal ers amser maith. Cafodd CD ei gynhyrchu, yn cynnwys hen ffotograffau a chyfraniadau fideo gan drigolion oedrannus, i ddangos y newidiadau ym Mhentref Rhaglan yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ers dwy flynedd bellach, mae Ditectifs Hanes Rhaglan, clwb ar ôl ysgol, wedi bod yn dysgu hanes drwy astudio a chofnodi’r beddau ym Mynwent Eglwys Sant Cadog. 

  • Gwefan Wiki Domesday Pentref Rhaglan, ystorfa ar gyfer cofnodion hanesyddol ac atgofion lleol. Ers ei sefydlu, mae 30,000 o bobl o bedwar ban byd wedi ymweld â’r wefan.

  • Y prosiect Tirnodau Treftadaeth presennol sy’n seiliedig ar godau QR
I gael manylion pellach, darllenwch y crynodeb llawn.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Friday, 14 December 2012

Delweddu Arforol: Prosiect Scapa Flow





Delweddu Arforol: Prosiect Scapa Flow.

Gallwn gadarnhau mai Mike Postons, cyfarwyddwr 3Deep Media, fydd un o’r prif siaradwyr yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013. Bydd Mike yn siarad am ddatblygiadau ym maes cofnodi a modelu safleoedd treftadaeth tanddwr, a sut y gall y gwaith hwn gael ei ddelweddu ar gyfer y cyhoedd. Un prosiect y rhoddir sylw arbennig iddo yw prosiect Safle Llongddrylliadau Hanesyddol Scapa Flow sy’n dangos sut y gall mapio a modelu llongddrylliadau hanesyddol gael ei ddefnyddio i ysgogi diddordeb y cyhoedd yn ein treftadaeth arforol.

MAE COFRESTRU NAWR AR AGOR
Gorfennol Digidol 2013 - Manylion Cofrestru

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Tuesday, 11 December 2012

Ffonau Clyfar – Ai Dyma Ddyfodol Dehongli Treftadaeth?





Bydd Andrew Kerry-Bedell o KB consultants ac IT's in Conservation yn dod i gynhadledd Gorffennol Digidol 2013 i siarad am ddefnyddio technoleg y ffôn clyfar i ddarparu dehongli symudol ar gyfer cynulleidfaoedd ar safleoedd treftadaeth. Pwyntiau allweddol papur Andrew fydd:
  • Chwyldro’r ffôn clyfar a thueddiadau ymysg defnyddwyr
  • Codau QR, Tagiau NFC, Realiti Estynedig a dehongli symudol arall
  • Ymchwil i ddehongli symudol - profiad Llwybr Cenedlaethol y South Downs
  • Gwneud i ddehongli wedi’i seilio ar y ffôn symudol weithio i bawb - canllawiau ymarferol
  • Trafodaeth - gwersi a ddysgwyd o brosiectau diweddar a chwestiynau


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Tuesday, 9 October 2012

The Story of Wales: The Furnace of Change






RCAHMW 3D model of the engine house at Hafod Copperworks, HMC805, nprn:- 33710
 Ar ôl dangos tair rhaglen gyntaf “The Story of Wales” yr wythnos ddiwethaf, bydd modd gweld gweddill y gyfres yr wythnos hon ar BBC2 am 7pm. Heno bydd rhaglen 4, “The Furnace of Change”, yn edrych ar sut y cafodd Cymru ei throi’n rym economaidd byd-eang yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, gan roi sylw arbennig i gloddio am gopr ar Fynydd Parys, Ynys Môn, a’i fwyndoddi yn ‘Copperopolis’, Abertawe, a’i allforio oddi yno, a gweddnewid y diwydiant haearn gan deulu Crawshay ym Merthyr Tudful. Bydd hefyd yn ystyried y cynnwrf cymdeithasol a achoswyd gan y newidiadau hyn, megis y terfysgoedd a’r gwrthryfeloedd ym Merthyr Tudful a Chasnewydd a Therfysgoedd Beca yng nghefn gwlad.


Cysylltau i’r safleoedd sy’n cael sylw yn y 4edd raglen:


 
Yn olaf, ceir yn Trysorau Cudd: Hidden Histories, llyfr llawn lluniau gwych y Comisiwn Brenhinol, adran hynod ddiddorol ar ‘Y Genedl Ddiwydiannol Gyntaf’ gan Stephen Hughes a Dr Peter Wakelin, sy’n cyfrannu deg erthygl bwysig ar y pwnc hwn. Yn ogystal, bydd y rheiny sy’n ymddiddori yn y Gymru ddiwydiannol yn cael eu cyfareddu gan lyfr swmpus y Comisiwn Brenhinol ar y diwydiant copr: Copperopolis: Landscapes of the Early Industrial Period in Swansea. Gellir cael copïau o’n holl gyhoeddiadau drwy ein siop lyfrau, ac mae disgownt arbennig o 10% ar gael i Gyfeillion. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Brenhinol neu ffoniwch 01970 621200.

 Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

Thursday, 27 September 2012

Showcasing Britain From Above - Itea and Biscuits Getting To Grips With Modern Technology





Natasha Scullion, the Britain From Above officer, busy helping visitors access the website. 21 September 2012 at the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
On Friday, the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales opened its doors to welcome the participants of the first Itea and Biscuits session. This was a nationwide event devised by Age UK and its counterparts Age Cymru, Age NI and Age Scotland, to help members of the older generation get to grips with modern technology. The week-long event, hosted by various organisations across the country offered a range of sessions focusing on things such as: how to send a text message, how to use a smart phone and how to get the most from the internet.

The Royal Commission decided to join in and offer people the opportunity to get a more in-depth look at one of its online projects. Britain from Above is an online resource, made possible by the partnership of RCAHMW, RCAHM Scotland (RCAHMS) and English Heritage and is currently conserving, digitising and displaying images from the Aerofilms collection. The partnership, using money from the Heritage Lottery Fund bought the entire archive of Aerofilms Ltd, an aerial photography company that had been in operation from 1919 to 2006, and is currently working to preserve the very earliest part of the collection, 1919-1953.

The pictures have been conserved at the archive of English Heritage and their digitised forms are beginning to be made available online. So far the Britain from Above website has over 16,000 images, but by the end of the project, in 2014, all 95,000 images in this part of the collection will be able to be viewed by everyone free of charge.

The Britain From Above website successfully accessed.

Britain from Above is not just for looking at spectacular pictures though, the website is entirely interactive and all users are encouraged to take part, by commenting on images, identifying unlocated images and sharing any local knowledge and reminiscences.

The session on Friday was a taster of just how much the website has to offer. Beginning with a presentation about the project there was a detailed slide show, giving a step-by-step guide to how to use the website and get the most from it. All the features were demonstrated and discussed; showing just how much can be done on the site.

Ten people from the local community came along and joined in; each were given a pack of information about the website and the Royal Commission, including a copy of the step-by-step guide. Armed with a range of computers, from a library desktop to laptops and even an iPad, everyone launched into an exploration of the site. They were all impressed with the range of photographs available so far, especially some of the images of Aberystwyth hosted on the site, and particularly one of the National Library of Wales in 1932, long before it was surrounded by university buildings, this provoked a lively discussion. Visitors commented on how easy the site was to navigate and some people managed to find their home towns the way they had remembered them years previously. Keen to join in, the group made profiles, which enabled them to start accessing all the features  of the site, such as joining groups, commenting and deciding to ‘love’ images - the direct way to draw attention to your favourite image as it becomes part of the homepage show reel for a while!

Once visitors were satisfied they had got to grips with the website they were excited to show it off at home or in a library with other friends,  it was decided everyone had certainly earned their free tea and biscuits!

Discussions in the coffee room were full of what they wanted to find next and who they wanted to show the website off to first. Everyone agreed that it had been a very helpful session to get them acquainted with Britain from Above and they were  all certainly looking forward to exploring more heritage websites in the future.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

LinkWithin