Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday, 31 January 2013

Cymorth Torfol i Ddarganfod Hoff Adeilad Cymru





Mae Daniel Drave, myfyriwr israddedig sy’n dilyn cwrs Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn egluro ei waith gyda thîm Data a Thechnoleg y Comisiwn Brenhinol:
 
Fel y sawl sydd wedi datblygu’r rhaglen ffôn symudol a gwasanaeth gwefan My Favourite Building, rydw i wedi gallu ehangu fy ngwybodaeth o’r byd gwaith proffesiynol, gwella fy sgiliau rhaglennu cyfrifiadurol a chyfrannu i un o raglenni’r Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth. Yn swyddogol, rydw i’n gweithio ar leoliad gwaith gydag un o adrannau polisi Llywodraeth Cymru, sef CyMAL: Amgueddfeydd, Archifdai a Llyfrgelloedd, ac estyniad o hyn yw fy lleoliad gyda’r Comisiwn Brenhinol.

Dan yn gweithio ar y prosiect.
Cafodd y syniad o greu ‘app’ ffôn symudol cymorth torfol (crowd-sourcing) ym maes treftadaeth ddigidol, i gefnogi cyfraniadau defnyddwyr i wefan Casgliad y Werin Cymru, ei awgrymu i CyMAL gan Tom Pert, Rheolwr Datblygu Ar-Lein y Comisiwn Brenhinol. Gan fy mod i wedi meithrin sgiliau addas drwy astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cynigiais arwain y gwaith o ddatblygu’r app.

Hafan My Favourite Building.
Bydd yr app cymorth torfol yn caniatáu i ddefnyddwyr dynnu ffotograffau o’u hoff adeilad hanesyddol drwy ddefnyddio’r camerâu ar eu ffôn clyfar. Yna byddant yn gallu ychwanegu testun i esbonio pam mai hwn yw eu hoff adeilad a llwytho’r cofnod i fyny i wasanaeth gwe. Mae’r gwasanaeth gwe yn darparu rhyngwyneb defnyddiwr deniadol ar gyfer gweld eich cyfraniadau eich hun a chyfraniadau pobl eraill, ac mae’n cynnig mynediad i wasanaethau eraill, gan gynnwys rheoli proffiliau a chwiliadau cyflym. Bydd gweinyddwyr safleoedd neu arweinwyr prosiectau cymunedol lleol hefyd yn gallu creu prosiectau newydd, gan ganiatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho cynnwys newydd ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau. Enghreifftiau posibl o brosiectau o’r fath fyddai ‘Fy Nhafarn Leol’ neu ‘Fy Hoff Safle Treftadaeth’. Mae’r app yn hyblyg iawn a’r gobaith yw y caiff ei defnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd, o ddefnydd hamdden i weithdai addysgol.


Sgrin mewnbynnu data (chwith) a sgrin cofnod cyflawn (de) ar yr app My Favourite Building.

Mae’r gwaith datblygu bron wedi’i gwblhau a bydd prototeip o’r app a’r wefan ar gael i’w profi gan ddefnyddwyr erbyn canol Chwefror. Bydd yr app ar gael ar gyfer y system weithredu Android, ac mae’r wefan wedi cael ei hoptimeiddio ar gyfer Mozilla Firefox.

Os  hoffech chi wybod mwy am y prosiect My Favourite Building, mae croeso i chi gysylltu â: tom.pert@cbhc.gov.uk

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin