 |
Uwchlaw’r-coed, NPRN: 28881, y tŷ hynaf yn Eryri sydd wedi’i ddyddio yn ôl arysgrif. |
Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf bu’r
Comisiwn Brenhinol yn gweithio mewn partneriaeth â’r
Grŵp Dyddio Hen Dai Cymreig yng Ngogledd-Orllewin Cymru. Dan arweiniad Margaret Dunn, mae grŵp mawr o wirfoddolwyr wedi darganfod a dyddio oddeutu deg a thrigain o dai cynnar gyda chymorth Richard Suggett, hanesydd pensaernïol y Comisiwn Brenhinol. Y tŷ hynaf yn Eryri yn ôl y dyddiad sydd wedi’i arysgrifio arno yw
Uwchlaw’r-coed, Llanenddwyn, Meirionnydd, sydd wedi’i ddyddio’n 1585.
 |
Yr arysgrif 1585 yn Uwchlaw’r–coed. |
Ond mae dyddio ar sail blwyddgylchau bellach yn mynd â hanes tai Eryri yn ôl i ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg ar ôl darganfod i
Ddugoed ym Mhenmachno gael ei godi ym 1516/17.
 |
Dugoed, NPRN: 26415, drwy astudio blwyddgylchau dyddiwyd y tŷ i 1516/17. |
Mae llawer o dai eraill wedi’u dyddio ac mae’r canlyniadau i’w gweld ar
Coflein erbyn hyn. Yn yr hydref 2014 bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyhoeddi dadansoddiad o’r canlyniadau hyn, gan Richard Suggett ac aelodau o’r Grŵp Dyddio Hen Dai Cymreig, yng nghyd-destun newidiadau economaidd a chymdeithasol yr unfed ganrif ar bymtheg.
Gan Richard Suggett, Uwch Ymchwilydd Adeiladau Hanesyddol
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn

a
thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:

Twitter Hashtag: #RCAHMWales