Allwch chi ein helpu i ddarparu'r gwasanaethau amgylchedd hanesyddol gorau posibl i bobl Cymru?
Archif a gwasanaeth ymchwilio cenedlaethol annibynnol, unigryw i Gymru yw Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae wedi'i neilltuo i ddehongli a chofnodi'n awdurdodol ein hamgylchedd hanesyddol cyfoethog. Rydym yn gweithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac mae gennym staff medrus sy'n darparu cyngor proffesiynol a gwybodaeth arbenigol i'r cyhoedd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl i Gymru, gan feithrin gwell dealltwriaeth o'n hadeiladau a'n tirweddau hanesyddol, a sicrhau eu bod yn cael gwell gofal, a chydnabod potensial treftadaeth i helpu i wella bywydau pobl.
Sefydlwyd y Comisiwn drwy Warant Frenhinol ym 1908 ac erbyn hyn, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ein prif ffynhonnell o gyllid yw Llywodraeth Cymru. Trwy ein gwaith, rydym yn:
- Ymchwilio i archeoleg, adeiladau, tirweddau a gweddillion morol o'r cyfnod cynhanes hyd heddiw a’u cofnodi;
- Gofalu'n barhaol am archif cyfoethog Cymru o'r amgylchedd hanesyddol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru;
- Cefnogi pobl i ddysgu am ein treftadaeth gyfoethog drwy adnoddau ar-lein, gweithgarwch allgymorth cymunedol a chyhoeddiadau;
- Rhoi cyngor a gwybodaeth ddiduedd i helpu pobl i reoli'r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy a moesego.
Gan adeiladu ar ein llwyddiannau diweddar, rydym yn awr yn dymuno tyfu a datblygu ein sefydliad at y dyfodol. Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n Bwrdd Comisiynwyr sy'n barod i helpu i gyfarwyddo, herio ac adolygu ein gwaith mewn modd adeiladol. Rydym wedi ymrwymo i gadarnhau ein bwrdd ac amrywio ei aelodaeth, felly rydym yn chwilio am aelodau newydd sydd â phrofiad neu arbenigedd mewn un neu ragor o'r meysydd canlynol:
- Profiad o ddulliau masnachol o weithio, marchnata a gwaith cysylltiadau cyhoeddus a hanes llwyddiannus o godi arian;
- Arbenigedd mewn rheoli archifau;
- Arbenigedd mewn gweithio gyda chymunedau, yn enwedig grwpiau anodd eu cyrraedd, ar lefel strategol, ac ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth;
- Profiad o ddarparu trosolwg ac her adeiladol i sefydliadau â nodau elusennol;
- Gwybodaeth am ofynion rôl lywodraethu ar lefel uchel, a hanes llwyddiannus o ymgymryd â rôl o’r fath.
I gael rhagor o wybodaeth:
http://bit.ly/1ghFqYb
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn

a
thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales