Tapestri Big Pit. Hawlfraint: Mad Mountain Stitchers |
Bydd y tapestri anhygoel o Big Pit, Blaenafon, a grëwyd y llynedd gan y Mad Mountain Stitchers ac a gafodd sylw ym mlog Treftadaeth Cymru ym mis Medi, yn cael ei arddangos yn Big Pit o 1 Mai 2013. Gan ddefnyddio nifer o wahanol ddefnyddiau a thechnegau hynod o greadigol, bu Margitta Davis, Ann Notley, Penny Turnbull, Milli Stein a Jan Winstanley wrthi am ddwy flynedd yn creu’r tapestri rhyfeddol a dyfeisgar hwn, gan fanteisio ar ddelweddau o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ac, yn arbennig, lluniau o gasgliad John Cornwell.
![]() |
![]() |
Chwith: Twnnel cysylltiol rhwng Gwaelod y Pwll a Bwa’r Afon. NPRN 433 (Gasgliad John Cornwell)
De: Y gweithfeydd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mhyllau Coety. NPRN 433 (Gasgliad John Cornwell)
De: Y gweithfeydd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mhyllau Coety. NPRN 433 (Gasgliad John Cornwell)
Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) sy’n dal y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru o’r cyfnodau cynharaf hyd heddiw. Ceir yn y casgliadau bron 2,000,000 o ffotograffau, mwy na 125,000 o luniadau, 32,000 a rhagor o fapiau wedi’u harchifo, a mwy na 530,000 o dudalennau o destun ac adroddiadau. Mae mwy a mwy o’r deunydd hwn ar gael ar Coflein, ein cronfa ddata ar-lein. Yn ogystal, mae’r Comisiwn Brenhinol yn croesawu ymholiadau am ei gasgliadau ac yn cynnig gwasanaeth ymholiadau am ddim i’r cyhoedd.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales