Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English
Showing posts with label y Comisiwn Brenhinol. Show all posts
Showing posts with label y Comisiwn Brenhinol. Show all posts

Friday, 31 May 2013

Awyrluniwch yr Awyren yn y Gelli Gandryll!





Y cynnyrch gorffenedig: awyren wedi’i hawyrlunio!
 Mewn heulwen braf, ymunodd y Comisiwn Brenhinol â chyrff treftadaeth eraill ar stondin Hanes Cymru yn y Gelli Gandryll eleni, lle cafodd gweithgareddau plant eu cynnal bob dydd. Roedd cyfraniad gwreiddiol y Comisiwn Brenhinol - Awyrluniwch yr Awyren! - yn llwyddiant ysgubol, gan roi cyfle i bawb ddarganfod treftadaeth gyfoethog Cymru o’r awyr drwy ddefnyddio casgliad y Comisiwn Brenhinol o awyrluniau (sydd i gyd ar gael ar Coflein), pot mawr o lud ac awyren bedair troedfedd o hyd! Drwy gydol Dydd Sadwrn, bu ymwelwyr â’r stondin yn brysur yn torri allan ac yn gludio mwy na 700 o ddelweddau i orchuddio’r awyren bren ac roedd y canlyniad  terfynol yn hynod drawiadol.

Bydd gan Robert, arth o ysgol gynradd yn Llundain, lawer i’w ddweud ar ôl mynd adref ar ôl hanner tymor!

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Wednesday, 3 April 2013

Gweledigaethau o Le: Hanes Cofnodi Aneddiadau Cynlluniedig, 18 Ebrill - 4 Mai







Bydd arddangosfa o’r enw Gweledigaethau o Le: Hanes Cofnodi Aneddiadau Cynlluniedig gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, 18 Ebrill – 4 Mai, fel rhan o’r Ŵyl Bensaernïaeth Cymru gyntaf erioed. Bydd yr arddangosfa hon yn ymdrin â Mudiad y Gardd-Bentref, Tai Parod Casnewydd, Herbert North: Pensaer Celfyddyd a Chrefft, John Nash a’r Pictiwrésg, ac Eco-dai ac fe’i hategir gan ddelweddau hardd o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, y mae llawer ohonynt ar gael am ddim ar Coflein.

Nod yr Ŵyl newydd hon yw symbylu trafodaeth am bensaernïaeth. Bydd yr Ŵyl yn darparu fforwm ar gyfer penseiri, cynllunwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, a’r cyhoedd, i rannu eu barn a’u gwybodaeth am yr amgylchedd adeiledig mewn rhaglen eang ei chwmpas o sgyrsiau, ffilmiau, gweithdai ac arddangosfeydd. Dau o uchafbwyntiau’r Ŵyl fydd gweithdy cerameg bensaernïol deuddydd gyda Gwen Heeney, a noson o bensaernïaeth a barddoniaeth gyda’r Bardd Llawryfog, Carol Ann Duffy a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke. Gan ymestyn dros gyfnod o chwe wythnos, mae’n siŵr y bydd yr Ŵyl hon – y gyntaf o’i bath yng Nghymru – yn ysgogi trafodaeth am rôl arbennig pensaernïaeth yng Nghymru, ac yn cynnig rhywbeth i bawb.

 I gael manylion pellach, cysylltwch â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RSS button and subscribe!

Also find us on: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

LinkWithin