Lleoliad: Aberystwyth
Disgrifiad o'r Swydd: Ysgrifennydd (Prif Weithredwr)
Cyflog: £57,550 - £68,150 (Band 1 Gweithredwyr Llywodraeth Cymru)
37 awr yr wythnos – tymor sefydlog o 4 blynedd (mae posibilrwydd y caiff ei adnewyddu)
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn chwilio am Ysgrifennydd (Prif Weithredwr) newydd i arwain ac ysbrydoli’n staff a’n gwirfoddolwyr drwy’r bennod nesaf yn ein hanes o 106 o flynyddoedd.
Y Comisiwn Brenhinol yw’r corff archwilio a’r archif cenedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Ysgrifennydd y Comisiwn sy’n gyfrifol am arweinyddiaeth, strategaeth, gwarcheidwaeth a rheolaeth y Comisiwn Brenhinol a sicrhau ei fod yn cyflawni’r cyfrifoldebau a nodir yn ei Warant Frenhinol a’i gylch gwaith fel y’i pennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn ymrwymiad gan y Gweinidog i’w gadw’n gorff annibynnol, mae hwn yn gyfle arbennig iawn i arwain, ysbrydoli ac ysgogi’r Comisiwn drwy gyfnod o newid o fewn y sefydliad a sector ehangach yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Bydd yr Ysgrifennydd yn adeiladu ar lwyfan cadarn o lwyddiant ac yn manteisio ar gyfleoedd i sicrhau newidiadau a fydd yn cefnogi gweledigaeth uchelgeisiol at y dyfodol i sicrhau cynaladwyedd tymor-hir y sefydliad a chyfrannu i’w agendâu sectorol.
Bydd yr Ysgrifennydd yn arweinydd profiadol sydd â record nodedig o gyflawni wrth gynrychioli sefydliad ar lefel uchel. Drwy amlygu angerdd wrth arwain y staff a’r gwirfoddolwyr, bod yn gadarn wrth gyflawni dyletswyddau’r Comisiwn i gynnal a datblygu’r Cofnod Henebion Cenedlaethol, wrth weithredu fel arweinydd wrth arolygu ac ymchwilio i’r amgylchedd hanesyddol a hyrwyddo’r ddealltwriaeth ehangaf bosibl o dreftadaeth Cymru ac o’r ymgysylltu â hi, bydd yr Ysgrifennydd yn symud y Comisiwn Brenhinol yn ei flaen yn gyflym, yn egnïol ac yn llawn dychymyg ac yn ymroi’n daer i hyrwyddo’i waith.
Mae ffurflen gais a manylion pellach i’w cael oddi wrth:-
Stephen Bailey John
Y Comisiwn Brenhinol
Plas Crug, Aberystwyth, SY23 1NJ
Ffôn: 01970 621230
Ffacs: 01970 621246
e-bost: stephen.bailey-john@cbhc.gov.uk
Y dyddiad cau i geisiadau yw 13 Tachwedd 2014.
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales