Darlith a gweithdai yn y Comisiwn Brenhinol, 14 Hydref
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn gwahodd ymwelwyr i fwynhau prynhawn o ddarlithoedd ac i gymryd rhan mewn trafodaeth i werthuso Coflein, cronfa ddata ar-lein y Comisiwn, Dydd Mawrth, 14 Hydref, 2014.
Mae Coflein yn darparu mynediad ar-lein i Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru – cronfa ddata, catalog ac archif digidol yr amgylchedd hanesyddol cenedlaethol.
I ddechrau’r prynhawn, fe fydd David Thomas, Pennaeth Data a Thechnoleg, yn eich croesawu ac yn rhoi cyflwyniad i Coflein. Bydd gweithdai’n cael eu cynnal wedyn i roi cyfle i bawb drafod cronfa ddata’r Comisiwn Brenhinol o safleoedd a chasgliadau, gofyn cwestiynau, trafod problemau sydd wedi codi, ac awgrymu datblygiadau at y dyfodol. Os oes gennych ddiddordeb mewn archaeoleg a’r amgylchedd hanesyddol, hanes lleol, awyrluniau, hanes tai ac adeiladau crefyddol, hanes morwrol a llongddrylliadau, fe fydd ffynonellau sy’n berthnasol i chi ar Coflein.
Bydd dau weithdy’n cael eu cynnal. Bydd y cyntaf rhwng 2pm a 3.30pm a’r ail rhwng 4pm a 5.30pm. Bydd lluniaeth ysgafn yn cael ei ddarparu. I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu’ch lle, cysylltwch â Nicola Roberts: mailto:nicola.roberts@cbhc.gov.uk Ffôn: 01970 621248.
Croeso i bawb, pa faint bynnag o brofiad sydd gennych. Dewch i ddarganfod rhagor a rhannu eich barn!
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales










