Lleoliad Maes Eisteddfod 2013. |
Yr wythnos nesaf dewch i’n gweld ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych i ddarganfod mwy am dreftadaeth gyfoethog ein cenedl o ran adeiladau ac archaeoleg. Bydd Coflein, ein cronfa ddata ar-lein, a’n harbenigwyr ein hunain, ar gael i ateb eich ymholiadau drwy gydol yr wythnos. Mae ein harddangosfa yn cynnwys paneli ar dref hanesyddol Dinbych, defnyddio blwyddgylchau coed i ddyddio adeiladau, arlunwaith Falcon Hildred, a gwaith y prosiect Cysylltiadau Metel yn Amlwch. Fe fyddwn ni yn y “Rhes Dreftadaeth”, stondin rhif 509-10, wrth ymyl Cadw ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, felly galwch i mewn i’n gweld ni!
Dyddiadau pwysig i’r dyddiadur:
Ar Ddydd Mercher, 7 Awst, am 11am, bydd Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol, Dr Eurwyn Wiliam, yn rhoi sgwrs ym Mhabell y Cymdeithasau 1 ar “Darganfod Hanes Sir Ddinbych - darganfyddiadau diweddar gan Gomisiwn Henebion Cymru”, ac eto ar Ddydd Iau, 8 Awst, am 3:30pm ym mhabell Sir Ddinbych (yn wynebu’r brif fynedfa).
Ar Ddydd Gwener, 9 Awst, bydd yr hanesydd milwrol, Medwyn Parry, yn rhoi sgwrs ar Olion Milwrol o’r Ugeinfed Ganrif yng Nghymru ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 10.30am.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #CBHCymru
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.