Bob blwyddyn, bydd staff y Comisiwn Brenhinol yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ar gyfer ein hamrywiaeth eang o ddefnyddwyr a chwsmeriaid yn y ffordd fwyaf darbodus ac effeithiol bosibl. Byddwn yn gosod dangosyddion perfformiad allweddol, ochr yn ochr â’n hamcanion gweithredol eraill ar gyfer y flwyddyn, i roi mesur o’n perfformiad. Yn ystod 2012/13, o ganlyniad i waith caled ac ymrwymiad ein holl staff, a thrwy sicrhau adnoddau ychwanegol drwy weithio mewn partneriaeth a denu arian o’r tu allan, llwyddasom i gyflawni neu ragori ar ein pymtheg targed, a restrir yn y tabl isod. Rydym yn arbennig o falch ein bod ni’n parhau i ddenu mwy a mwy o bobl i ddefnyddio ein hadnoddau, boed ar ffurf ymweliadau â’n hadnoddau ar-lein; ymchwilwyr yn ceisio gwybodaeth drwy ein gwasanaeth ymholiadau cyhoeddus; pobl yn manteisio ar yr hyfforddiant y gallwn ei ddarparu; neu’r niferoedd sy’n mynychu ein digwyddiadau. Mae galw’r cyhoedd am yr adnoddau ardderchog a ddarparwn yn parhau i dyfu ac mae bodlonrwydd â’n gwasanaethau yn parhau’n uchel. Rydym wedi cynyddu llawer o’n targedau ar gyfer 2013/14 er gwaethaf yr her fawr o ymdopi â gostyngiadau yn ein cyllideb.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
a
thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.