Bydd yr arddangosfa’n agor ar Ddydd Sadwrn, 19 Ionawr 2013, ac yn cau ar Ddydd Sadwrn, 2 Mawrth 2013. Bydd mwy na deg ar hugain o ddelweddau o gartrefi Cymru o archif helaeth y Comisiwn yn cael eu dangos, ynghyd â gwrthrychau domestig o gasgliadau’r amgueddfa ei hun. Defnyddir llyfr y Comisiwn, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru, i ategu’r arddangosfa.
Bydd Rachael Barnwell, curadur y Comisiwn Brenhinol sy’n gyfrifol am yr arddangosfa hon, yn rhoi sgwrs fer yn ystod yr agoriad ar 19 Ionawr.
I gael manylion amserau agor a mynediad, ewch i wefan Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, neu ffoniwch 01248 353 368.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales