Y capel Cymreig yw un o’r mathau mwyaf nodedig ac eiconig o adeilad yng Nghymru, a chyfeirir at yr adeiladau hyn yn aml fel ‘Pensaernïaeth Cymru’. Mae capeli’n rhan amlwg o’n tirweddau trefol a gwledig. Os ewch i rywle yng Nghymru byddwch yn gweld yr addoldai hyn, rhai ohonynt yn fawreddog iawn, yng nghalon pob cymuned. Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi bod yn arwain yr ymgyrch i gydnabod eu pwysigrwydd diwylliannol, cymdeithasol a phensaernïol ar adeg pan ydynt dan fygythiad cynyddol, a llawer yn cael eu cau a’u dymchwel. Gan weithio gyda gwirfoddolwyr o Capel, cymdeithasau ffotograffig ac unigolion sydd â diddordeb yn y maes, rydym wedi cynnal prosiect cenedlaethol i gofnodi, arolygu a chasglu gwybodaeth amdanynt cyn iddynt ddiflannu. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r gwirfoddolwyr lleol hyn am eu cymorth amhrisiadwy a’r holl wybodaeth a lluniau maent hwy wedi’u cyfrannu.
Fel rhan o’r gwaith hwn, buom yn gweithio gydag Addoldai Cymru drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Elusen yw Addoldai Cymru (Welsh Religious Buildings Trust) a sefydlwyd i gymryd i’w meddiant ddetholiad o gapeli gwag sydd o bwys hanesyddol a/neu bensaernïol i Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Rydym wedi cydweithio i greu gwefan y gall pobl ei defnyddio i gyrchu’r wybodaeth hon ac i rannu lluniau ac atgofion o’u capeli hwy eu hunain.
Rydym wedi cynnal dyddiau cymunedol mewn pedwar o gapeli’r Ymddiriedolaeth ac wedi casglu gwybodaeth gan bobl yr oedd y capel yn rhan annatod o’u bywydau.
![]() |
| © Betsan Haf Evans: CelfCalon |
Yn yr arddangosfa, gallwch wrando ar recordiad sain arbennig, a gyfrannwyd yn un o’r digwyddiadau hyn, o Elizabeth James yn siarad (ac yn canu) â’i hŵyr am Ddiwygiad 1904-05. Cafodd ei recordio ym 1984 pan oedd hi’n 100 oed ac mae’n disgrifio ei phrofiadau fel athrawes ifanc ym Maesteg pan ddaeth Evan Roberts i bregethu. Mae’n bosibl y bydd diwygiad newydd yn dechrau yma ymhlith y staff, sydd wedi dechrau mwmian yr emynau!
Gwrandewch yma: http://www.casgliadywerin.cymru/items/400526
Oherwydd y cyfoeth o ddeunydd sydd ar gael yn archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru am gapeli o bob enwad ac o bob rhan o Gymru, roedd yn anodd dewis capeli i’w cynnwys yn yr arddangosfa, yn enwedig gan nad oes gennym ond un cwpwrdd bach. Yn y diwedd, penderfynwyd canolbwyntio ar du mewn y capeli a thynnu sylw at y manylion addurnol a’r gosodion a ffitiadau sy’n adrodd eu stori eu hun am, er enghraifft, bwysigrwydd y pulpud a’r Sedd Fawr, sut y cafwyd ateb i’r broblem o greu mwy o le eistedd drwy godi balconïau, a sut y câi capeli eu gwresogi a’u goleuo.
Yn ein llyfrgell mae gennym Feibl o 1874 yn ogystal â nifer o lyfrau allweddol ar gapeli Cymreig a’u pwysigrwydd i Gymru.
Yn olaf, mae gennym ddau fodel wrth raddfa, wedi’u saernïo’n grefftus gan aelodau ein staff ar gyfer yr arddangosfa.
Os yw hyn wedi’ch sbarduno i ddarganfod mwy, neu os oes gennych ddeunydd am eich capel yr hoffech ei lwytho i fyny, ewch i’r wefan: http://www.addoldaicymru.org/
Gan Helen Rowe
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rhannu ar:
• Twitter • Facebook • Google+ • Linkedin
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales







