Dyddiad Ago: 6 Awst 2012
Dyddiad Cau: 24 Awst 2012
Lleoliad: Aberystwyth
Disgrifiad o'r Swydd:
Mae’r Tîm Cofnodi ac Ymchwilio yn y Comisiwn Brenhinol yn chwarae rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth adeiledig Cymru ei chofnodi’n awdurdodol a’i deall. Y tîm sy’n gyfrifol am brosiectau thematig yr ymchwilio; am lunio dogfennau o safon ar yr asedau treftadaeth nodedig a’r rhai sydd mewn perygl, ac am ddarparu gwybodaeth arbenigol a diduedd i wneuthurwyr penderfyniadau yn sector yr amgylchedd hanesyddol. Bydd deiliad y swydd yn ymwneud â phob maes yng ngwaith y tîm adeiladau hanesyddol, a chaiff ei hyfforddi i gofnodi, dadansoddi a chyflwyno adeiladau, adeiladweithiau a threfweddau hanesyddol ledled Cymru. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar brosiectau thematig, sef capeli anghydffurfiol yn bennaf, ond bydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth mawr, ac amrywiol gyfnodau, o adeiladau y nodwyd eu bod yn asedau treftadaeth nodedig neu mewn perygl.
Graddfa Cyflog: TSB
Cyflog: £17,000 per annum
Hyd y cytundeb: 12 month
Cysylltwch â: Louise Barker
Dogfennau sy'n ymwneud â swydd benodol:
- Flurflen Monitro Cyfle Cyfartal (DOC, 0.2MB)
- Disgrifiad O'r Swydd A Manylef Y Person (DOC, 0.3MB)
- Hysbyseb (DOC, 0.6MB)
- Y Cynllun Hyfforddi (DOC, 0.3MB)
- Ffurflen Gyflwyno (DOC, 0.6MB)
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales