Ar Ddydd Sadwrn, 2 Tachwedd 2013, bydd staff y Comisiwn Brenhinol yn mynychu Ffair Lyfrau Hanes Lleol Sefydliad Brenhinol De Cymru yn Amgueddfa Abertawe, rhwng 10am a 4 pm. Yn ystod y diwrnod bydd cyfle i brynu llyfrau newydd ar hanes lleol, llyfrau ail-law a hynafiaethol, mapiau a phaentiadau hanesyddol, cardiau post a llawer mwy. Bydd awduron, cyhoeddwyr a pherchnogion siopau llyfrau, cynrychiolwyr cymdeithasau hanes lleol, yn ogystal â staff y Comisiwn Brenhinol, ar gael drwy gydol y dydd i ateb ymholiadau a sgwrsio ag ymwelwyr. Dewch yn arbennig i’n stondin ni, lle bydd ein holl gyhoeddiadau ar werth, gan gynnwys tri theitl a gyhoeddwyd yn ddiweddar: Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru / Inside Welsh Homes a Worktown: The Drawings of Falcon Hildred, i gyd gyda gostyngiad o 10%. Mae’r diwrnod yn siwr o fod yn gyfle gwych i bawb, felly dewch i ymuno â ni!
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales