Eleni mae’r
Comisiwn Brenhinol yn gweithio gyda’i bartneriaid i gynnal tri digwyddiad
Drysau Agored. Cynhelir y rhain bob blwyddyn yn ystod mis Medi, pan gaiff cannoedd o safleoedd ac adeiladau eu hagor (am ddim) i’r cyhoedd. Bydd llawer ohonynt hefyd yn cynnig teithiau tywys, sgyrsiau ac arddangosfeydd.
 |
| Neuadd y Dref, Dinbych (nprn: 23423) - Teithiau tywys drwy dref hanesyddol Dinbych ar Ddydd Sadwrn, 21 Medi. |
Ar Ddydd Sadwrn, 21 Medi, bydd Ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol yn rhannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu wrth baratoi cyhoeddiad nesaf y Comisiwn Brenhinol ar dref hanesyddol Dinbych. Byddant yn arwain dwy daith dywys drwy’r dref, gan dynnu sylw at amrywiaeth o adeiladau domestig, crefyddol, masnachol a chyhoeddus. Bydd pob taith yn para am 1½ awr a gofynnir i’r rheiny sy’n dymuno cymryd rhan gyfarfod y tu allan i Lyfrgell y Dref, Dinbych am 11am a 2pm. Mae nifer y lleoedd wedi’i gyfyngu i 15 o bobl a gallwch archebu eich lle yn Llyfrgell y Dref. Cysylltwch â’r Llyfrgell am ragor o fanylion.
 |
| Sgyrsiau ac arddangosfa’r Comisiwn Brenhinol yn nigwyddiad Drysau Agored Caer Belan (nprn: 26459) ar Ddydd Sul, 22 Medi. |
Y diwrnod wedyn, ar Ddydd Sul, 22 Medi, bydd hanesydd milwrol y Comisiwn Brenhinol, Medwyn Parry, yn rhoi dwy sgwrs yn ystod y Diwrnod Agored ar safle’r amddiffynfeydd arfordirol o’r ddeunawfed ganrif yng
Nghaer Belan, Llanwnda, Caernarfon. Y sgyrsiau fydd ‘
Worktown: Lluniadau Falcon Hildred’ (11.30am) a ‘Belan a Thu Hwnt: Olion Milwrol yng Nghymru’ (1.15pm). Bydd arddangosfa’r Comisiwn Brenhinol o arlunwaith Falcon Hildred yn cael ei dangos hefyd.
Yn olaf, ar Ddydd Iau, 26 Medi, bydd y Comisiwn Brenhinol yn agor ei ddrysau i groesawu’r cyhoedd i’w swyddfeydd. Yn ystod y dydd, fe fydd disgyblion o ysgolion uwchradd lleol yn dysgu am y
prosiect Prydain Oddi Fry (prosiect ar y cyd rhwng partneriaid yng Nghymru, Lloegr a’r Alban). Fe fydd pwyslais ar y sgiliau digidol sydd eu hangen heddiw ar gyfer gyrfa yn y sector treftadaeth ac mewn addysg yn gyffredinol. Mae croeso cynnes i’r cyhoedd ddod o 3.30pm ymlaen i weld deunydd archifol yn ein Llyfrgell a chyflwyniadau ac i sgwrsio â’n staff. Fe fydd sgwrs gan Gareth Edwards am 4pm ar Casgliadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru : Collections of the National Monuments Record of Wales.
I gael rhagor o fanylion am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â Nicola Roberts: ffôn 01970 621248, e-bost
nicola.roberts@rcahmw.gov.uk
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn

a
thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:

Twitter Hashtag: #RCAHMWales