![]() |
| Y dirwedd weundirol donnog, yn edrych ar draws dyffryn Llia uchaf i'r de-ddwyrain |
Ar Ddydd Sadwrn, 3 Mai, bydd David Leighton, arbenigwr y Comisiwn Brenhinol ar archaeoleg yr uwchdiroedd, yn arwain taith dywys i Fan Llia a Fan Dringarth yn harddwch Bannau Brycheiniog. Ardal ddistaw ar gyfer cerdded yw hon, i ffwrdd o’r llwybrau poblogaidd, ac mae’r daith ar hyd gweundiroedd agored yn nodedig am yr henebion cynhanesyddol, canoloesol ac ôl-ganoloesol y gellir eu gweld ar hyd y llwybr. Rhai o uchafbwyntiau’r daith fydd Maen Llia, carreg enfawr o dywodfaen sy’n un o’r meini hirion cynhanesyddol mwyaf yn Ne Cymru (NPRN: 84541), yr hen dollffordd a oedd, o bosibl, yn dilyn llwybr Sarn Helen (NPRN:407122), ac olion helaeth aneddiadau hanesyddol niferus yng Nghwm Nant y Gaseg.
Bydd y daith hon yn dilyn llwybr ar hyd llethrau gorllewinol Fan Llia i ben dyffryn Llia, ar draws Bryn Melyn a Chefn Perfedd i mewn i Gwm Dringarth a dyffrynnoedd llednant islaw Fan Dringarth, ac i lawr Cwm Dringarth uwchlaw Cronfa Ddŵr Ystradfellte, gan ddychwelyd i’r maes parcio ar draws rhan ddeheuol Cefn Perfedd, cyfanswm pellter o ryw 13.5 km (8.5 milltir).![]() |
| Maen Llia o'r gogledd-orllewin |
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Nicola Roberts, nicola.roberts@rcahmw.gov.uk neu ffoniwch 01970 621200. Bydd lleoedd i 30 o gerddwyr ar y mwyaf ar y daith gerdded hon.
Ceir disgrifiad llawnach o’r daith, ynghyd â gwybodaeth am deithiau a safleoedd eraill ar hyd y llwybr, yn TheWestern Brecon Beacons: The Archaeology of Mynydd Du and Fforest Fawr gan David Leighton, y gellir ei brynu gan y Comisiwn Brenhinol.
Trefnwyd y daith hon fel rhan o raglen Taith Gerdded Fawr Ramblers Cymru a Cadw. I gael manylion teithiau eraill drwy ardaloedd hanesyddol yn ystod y gwanwyn, defnyddiwch Leolwr Digwyddiadau Cadw yn: http://cadw.wales.gov.uk/events/
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales



