Camlas Kymer a Phont Dramffordd Pwll-y-Llygod
![]() |
Arolwg ar y gweill, pont dramffordd Pwll-y-Llygod ©Hawlfraint y Goron. NPRN 43100, DS2013_139_001 |
Yn sgil cais gan Cadw, bu ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol yn archwilio’r bont yn ofalus. Cafodd yr adeiladwaith ei ddifrodi gan lifogydd diweddar ac i hwyluso’r gwaith atgyweirio bu’n rhaid gwneud arolwg trylwyr. Gan ddefnyddio sganio laser a thechnoleg gorsaf gyflawn, mae cofnod tri dimensiwn manwl o’r bont wedi’i wneud. Bydd y data, ynghyd â’r cynlluniau a golygon a gynhyrchwyd, yn cael eu cadw yn archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales