Cyflog: £ 57,550 - £68,150 (Band Gweithredol 1 Llywodraeth Cymru)
Lleoliad: Aberystwyth
Cytundeb: 37 awr yr wythnos – penodiad parhaol
Y Comisiwn Brenhinol, a noddir gan Lywodraeth Cymru ac sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth, yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Rydym ni’n chwilio am rywun a fydd yn darparu arweinyddiaeth gref ar gyfer y Comisiwn Brenhinol. Gan weithredu fel Curadur Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, bydd gan y sawl a benodir gyfrifoldeb cyffredinol dros ei ddatblygiad parhaus fel adnodd cenedlaethol o bwys ac un o dri chasgliad cenedlaethol Cymru. Bydd yr Ysgrifennydd yn adrodd i Gadeirydd a Chomisiynwyr y Comisiwn ac yn atebol i Lywodraeth Cymru a bydd yn gyfrifol am gyflawni amcanion y Comisiwn yn unol â’i Warant Frenhinol a chylch gwaith Llywodraeth Cymru. Gan weithio gyda sector yr amgylchedd hanesyddol a thu hwnt i hyrwyddo cydweithio a phartneriaeth, bydd disgwyl i’r Ysgrifennydd sicrhau bod y Comisiwn yn cwrdd â’i gyfrifoldebau dros yr amgylchedd hanesyddol, y Rhaglen Lywodraethu, a phobl Cymru yn y pen draw.
Rhaid i’r ymgeiswyr allu profi neu ddangos bod ganddynt brofiad sylweddol ar lefel uwch mewn sefydliad sy’n ymwneud â deall a/neu reoli’r amgylchedd hanesyddol. Rhaid iddynt allu dangos eu bod wedi rheoli rhaglenni’n llwyddiannus ac wedi cwblhau prosiectau mewn pryd ac o fewn y gyllideb. Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos tystiolaeth o sgiliau rheoli busnes ardderchog ac o ymwybyddiaeth fasnachol, ynghyd â phrofiad o feithrin perthnasoedd penigamp ag amrywiaeth o bartneriaid. Rhaid darparu tystiolaeth hefyd o ddatblygu a chwblhau’n llwyddiannus gynlluniau wedi’u cyllido gan bartneriaid allanol. Byddai’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn fantais.
Gellir cael ffurflen gais a manylion pellach gan:-
Stephen Bailey John
Y Comisiwn Brenhinol
Plas Crug, Aberystwyth
SY23 1NJ
Ffôn: 01970 621230
Ffacs: 01970 621246
e-bost: stephen.bailey-john@cbhc.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 25 Gorfennaf 2014.
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn gyflogwr cyfle cyfartal
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales