Dyddiad Cau: 30 Mehefin 2013
Lleoliad: Aberystwyth
Disgrifiad o'r Swydd:
Cyngor Archaeoleg Prydain
Lleoliad Hyfforddi Archaeoleg Gymunedol
Ydych chi eisiau datblygu’ch gyrfa mewn archaeoleg?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio’n uniongyrchol ag amrywiaeth eang o gymunedau?
Nod penodol y Lleoliadau Bwrsari Archaeoleg Gymunedol a gynigir gan Gyngor Archaeoleg Prydain yw darparu hyfforddiant i unigolion y mae ganddynt wybodaeth dda eisoes o theori a thechnegau archaeolegol ac sy’n awyddus i feithrin eu sgiliau i’w defnyddio yn eu gyrfa yn y dyfodol i gryfhau cysylltiadau rhwng y proffesiwn archaeolegol ac amrywiaeth eang o gymunedau.
Ariennir y bwrsarïau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri drwy ei rhaglen Sgiliau i’r Dyfodol, gyda chymorth English Heritage, Cadw a Historic Scotland.
Bydd un Lleoliad Hyfforddi Archaeoleg Gymunedol derfynol (heb ffocws ar ieuenctid) ar gael o fis Medi 2013. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn bwrsari cyflogedig o £17,000.
Bydd y lleoliad yn:
• Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (Aberystwyth)
I gael manylion llawn y swydd ewch i’n gwefan lle gallwch lwytho pecyn cais i lawr (sy’n cynnwys disgrifiad swydd llawn a manyleb person) http://new.archaeologyuk.org/community-archaeology-training-placement
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Sul 30 Mehefin 2013
Graddfa Cyflog: TSB
Cyflog: £17,000 per annum
Hyd y cytundeb: 12 month
Cysylltwch â: Toby Driver
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.