Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English
Showing posts with label Tîm Arolwg. Show all posts
Showing posts with label Tîm Arolwg. Show all posts

Friday, 10 January 2014

Baddondy Glan Môr Coll yn dod i’r golwg ar ôl i Storm Ddifrodi Cysgodfan!





Cafodd Cysgodfan Bathrock ei gynllunio i roi cysgod i gerddwyr ar y promenâd. Mae’r pedair ochr agored yn cynnig cysgod rhag gwynt a glaw o unrhyw gyfeiriad ac mae’r parwydydd gwydrog yn darparu golygfeydd eang dros Fae Aberteifi.

Mae’r llanwau uchel diweddar a fu’n taro promenâd Aberystwyth wedi dinoethi olion baddondy pwrpasol cynharaf y dref, yn ogystal ag achosi difrod difrifol i adeiladwaith y cysgodfan hanesyddol ym mhen gogleddol Rhodfa’r Môr.

Llwyddodd tonnau a gyrhaeddodd dros 6 throedfedd o uchder i ddinistrio wyneb y morglawdd ar nos Wener, gan ysgubo ymaith y cerrig llanw o dan Gysgodfan Bathrock (NPRN: 411501). Adeiladwaith pren ag ochrau agored yw’r cysgodfan a adeiladwyd mewn dull Neo-Sioraidd syml yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Mae’n enghraifft ardderchog o’r celfi stryd a oedd yn nodweddiadol o drefi glan môr ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Yn anffodus, gan fod y cerrig llanw oddi tano wedi’u golchi i ffwrdd, mae’r slab concrit yr oedd y cysgodfan yn sefyll arno wedi dymchwel ac mae’r adeilad wedi dechrau disgyn i’r gwagle islaw.

Mae’r cysgodfan wedi’i danseilio ar ôl i stormydd diweddar olchi’r cerrig llanw i ffwrdd. Er gwaethaf y difrod i’r adeiladwaith, mae’r adeilad ei hun yn weddol gyfan. Mae cynlluniau ar y gweill i sefydlogi’r cysgodfan a’i symud o’i safle i’w atgyweirio.
O fewn y gwagle, mae cyfres o waliau islawr wedi’u dadorchuddio. Cafodd y Marine Baths eu hadeiladu ym 1810 gan Rice Williams Ysw., meddyg a gredai’n gryf fod cymryd bath rheolaidd mewn dŵr heli yn lleddfu rhai cyflyrau meddygol. Roedd yr arfer o ymdrochi mewn dŵr heli am resymau meddygol wedi dechrau ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ac roedd cytiau ymdrochi yn nodwedd gyffredin mewn llawer o drefi glan môr erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddai baddondy Dr Rice wedi galluogi’r ymwelydd llai anturus i fanteisio ar y pleser o ymdrochi yn nŵr y môr. Roedd ystafelloedd preifat ar gael i’r ymdrochwyr a baddon ymhob un ‘six feet long and two and a half wide, lined with Dutch tile, which being much less porous than marble, is more effectually cleansed from all impurities to which they are liable’. Yn ogystal, roedd boeleri mawr yn twymo’r dŵr fel nad oedd pobl o gyfansoddiad llai cadarn yn gorfod plymio i ddŵr oer.

Roedd gan y baddondy sylweddol faddon plymio, baddon cawod a baddon anwedd, a llety ar y llawr cyntaf. Ond erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn gorfod cystadlu â baddondy newydd ar Newfoundland Street (Stryd y Baddon erbyn hyn) a’r Queens Hotel yr oedd gan ei ystafelloedd ymolchi dapiau poeth, oer a dŵr heli er cyfleuster ei westeion. Ym 1892 fe gaeodd y Marine Baths a dymchwelwyd yr adeilad wrth wneud gwelliannau wedi hynny i’r promenâd gogleddol.
O fewn bastiwn mur y promenâd, mae olion waliau islawr y Marine Baths wedi dod i’r golwg. Roedd pibellau haearn bwrw yn ymestyn ymhell i Fae Aberteifi i sicrhau cyflenwad o ddŵr heli glân heb unrhyw dywod ynddo. Byddai boeleri islawr yn twymo’r dŵr i’r rheiny a ddymunai fwynhau ymdrochi llai bywiocaol.
Bu’r Comisiwn Brenhinol yn tynnu lluniau o’r waliau islawr ac mae’n bwriadu gwneud gwaith ymchwil a chofnodi mwy manwl pan fydd yn ddiogel i wneud hynny. Mae trafodaethau ar y gweill rhwng Cyngor Ceredigion a Cadw ar sut i sefydlogi ac atgyweirio Cysgodfan Bathrock.

Gan: Susan Fielding


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

Friday, 19 April 2013

Dyma’r Bont Dramffordd Cyntaf yng Nghymru, ac un o’r rhai Hynaf yn y Byd





Camlas Kymer a Phont Dramffordd Pwll-y-Llygod

Arolwg ar y gweill, pont dramffordd Pwll-y-Llygod
©Hawlfraint y Goron. NPRN 43100, DS2013_139_001
Camlas Kymer, a adeiladwyd gan Thomas Kymer rhwng 1766 a 1768, yw’r gamlas hynaf yng Nghymru. Roedd y gamlas yn 4.8 cilometr o hyd ac fe’i defnyddid i gludo nwyddau o gyfres o lofeydd glo caled a chwareli calchfaen ar hyd dyffryn Gwendraeth Fawr i gei yng Nghydweli. Roedd terfynfa’r gamlas ym Mhwll-y-Llygod, ac yn y fan hyn roedd tramffordd yn cysylltu â hi o Lofa Carwe. Mae’r dramffordd hon yn croesi’r afon yn gyfagos â’r gamlas, a bu’r Comisiwn Brenhinol yn rhoi sylw manwl yn ddiweddar i’r bont. Yn heneb gofrestredig bwysig, dyma’r bont dramffordd hynaf yng Nghymru ac un o’r rhai hynaf yn y byd.

Yn sgil cais gan Cadw, bu ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol yn archwilio’r bont yn ofalus. Cafodd yr adeiladwaith ei ddifrodi gan lifogydd diweddar ac i hwyluso’r gwaith atgyweirio bu’n rhaid gwneud arolwg trylwyr. Gan ddefnyddio sganio laser a thechnoleg gorsaf gyflawn, mae cofnod tri dimensiwn manwl o’r bont wedi’i wneud. Bydd y data, ynghyd â’r cynlluniau a golygon a gynhyrchwyd, yn cael eu cadw yn archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

LinkWithin