|
Cael hwyl gyda chwyddwydrau ac awyrluniau yn Niwrnod Hwyl Penparcau |
Diolch i bythefnos di-baid o heulwen braf fe gafodd mynychwyr
Gŵyl Archaeoleg 2013 amser bythgofiadwy yn Aberystwyth. Mae’r lluniau sy’n dilyn yn dangos rhai o’r 750 a mwy o selogion a fu’n mwynhau digwyddiadau’r
Comisiwn Brenhinol. Roedd y rhain yn cynnwys dyddiau cymunedol ym Mhenparcau a Llan-non, darlith i ddathlu lansio Cymdeithas Hanes ac Archaeoleg Llŷn, cyflwyniad ar waith Falcon Hildred, yr arlunydd tirweddau diwydiannol, a thaith dywys i fryngaer Pen Dinas dan arweiniad Dr Toby Driver. Cadwch eich llygaid ar agor am glawr blaen rhifyn nesaf Newyddlen Cyngor Archaeoleg Prydain (diwedd yr Haf 2013) a fydd yn dangos byddin o archaeolegwyr brwd yn ymlwybro at y copa!
|
Selogion yn brasgamu i gopa bryngaer Pen Dinas er gwaethaf gwres yr haul crasboeth | | | |
|
Rhoi delwedd Coflein o Aberystwyth wrth ei gilydd |
|
|
|
|
|
Nikki Vousden o’r Comisiwn Brenhinol yn egluro cyfrinachau maglau pysgod yn y Diwrnod Agored Cloddiadau Cymunedol, Heol Non, Llan-non, a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed |
|
|
|
|
Dr Peter Wakelin yn siarad â llond yr ystafell o bobl ar waith Falcon Hildred |
|
Ymwelwyr yn mwynhau taith safle yn ystod y Diwrnod Agored Cloddiadau Cymunedol, Heol Non, Llan-non |
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
a
thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #CBHCymru
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.