Un o'r rhai cyntaf i weld yr arddangosfa. |
Mae’r arddangosfa Gweledigaethau o Le, cyfraniad y Comisiwn Brenhinol i Ŵyl Bensaernïaeth Cymru, menter ar y cyd rhwng Cangen Canolbarth Cymru o Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, bellach yn cael ei harddangos ar brif lefel y Ganolfan. Mae’r paneli’n adrodd hanes cofnodi aneddiadau cynlluniedig yng Nghymru. Mae’r arddangosfa’n ymdrin â Mudiad y Gardd-Bentref, Tai Parod Casnewydd, Herbert Luck North: Pensaer Celfyddyd a Chrefft, John Nash a’r Pictiwrésg, ac Eco-dai ac fe’i hategir gan ddelweddau trawiadol o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, y mae llawer ohonynt ar gael ar Coflein.
Bydd yr arddangosfa ar agor bob dydd hyd 4 Mai, 2013.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.