Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday, 12 April 2013

Peilota’r Rhyngrwyd ‘Cael y gorau o Brydain oddi Fry’






Digwyddiad Am Ddim, Croeso i Bawb!

Dydd Gwener 26 Ebrill 2013, 10am-4pm
Llyfrgell y Drenewydd, sgwrs: 11am, 1pm a 3pm

Dewch i ddarganfod yr adnodd ar-lein gwych hwn sy’n dangos casgliad o awyrluniau, sydd heb eu gweld o’r blaen, o Gymru, yr Alban a Lloegr o oes yr arloeswyr hedfan. Mae’r casgliad yn cwmpasu’r blynyddoedd o 1919 i 1953, cyfnod pan oedd tirwedd gwledydd Prydain yn cael ei gweddnewid ar raddfa fawr.

Fe fydd tair sgwrs ar hanes y casgliad a’r prosiect ei hun yn ystod y dydd am 11am, 1pm a 3pm, ond bydd croeso i bawb alw i mewn ar unrhyw adeg a darganfod mwy drwy siarad â’r Swyddog Gweithgareddau Prydain Oddi Fry a rhoi cynnig ar y wefan ei hun, fel rhan o wythnos Gwanwyn Ar-lein Digital Unite.

Llyfrgell y Drenewydd, Lôn y Parc, Y Drenewydd, Powys, SY16
1EJ. Ffôn: 01686 626934

I gael gwybod mwy, ewch i: www.prydainoddifry.org.uk
Twitter: @AboveBritain

Natasha Scullion, Swyddog Gweithgareddau Prydain Oddi Fry, Cymru.
e-bost: natasha.scullion@cbhc.gov.uk
Ffôn: 01970 621200
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin