Cyfres deledu newydd sbon ar S4C ym mis Medi 2013…
Mae cynhyrchwyr ‘Coal House’ a ‘Snowdonia 1890’ nawr am roi’r cyfle i CHI deithio yn ôl mewn amser i brofi bywyd unigryw mewn plasty crand Cymreig yn 1910.
Rydym yn chwilio am unigolion a theuluoedd o bob oed i fyw a gweithio mewn Plasty bendigedig am 3 wythnos ym mis Medi eleni. Ai chi fydd y bwtler, y cogydd, y forwyn, teulu’r ffermdy….neu hyd yn oed y Sgweier a’i wraig?! Bydd eich bywyd yn Y Plas yn golygu gwisgo, gweithio, bwyta a chwarae yn union fel yr oedd hi yn 1910, a bydd ein camerau ni yn dilyn bob cam ar gyfer cyfres uchelgeisiol ar S4C yn yr hydref.
Efallai eich bod wedi dwli ar y dramáu sy’n rhoi blas ar fywyd ‘upstairs/downstairs’, neu efallai bod perthynas wedi byw neu weithio mewn plasty yn y gorffennol. Nawr dyma’ch cyfle chi i gamu i draed ein cyndeidiau am brofiad bythgofiadwy ddaw a’n hanes ni’n fyw.
Am ffurflen gais, cysylltwch â’r tîm cynhyrchu ar yplas@yplas.tv neu 029 20 671540.
Dyddiad Cau: 13 o Fai 2013.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.