|
Llun o du allan Dolbelydr a dynnwyd gan y Comisiwn Brenhinol ym 1950. |
Mae
Dolbelydr, ger Llanelwy, ar agor i’r cyhoedd y penwythnos hwn, 26-29 Ebrill, a chynhelir arddangosiadau Caligraffeg ar Ddydd Sadwrn y 27ain a Dydd Sul yr 28ain. Cafodd Dolbelydr, sy’n eiddo i’r
Landmark Trust bellach, ei adfer yn llwyr yn 2003. Mae’r adeilad, gyda’i simneiau talcen uchel a’i waliau gwyngalchog, yn enghraifft ysblennydd o dŷ bonedd lloriog o’r unfed ganrif ar bymtheg. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg roedd Dolbelydr yn gartref i gangen o’r teulu Salusbury o Leweni, ac yn ddiweddarach i Henry Salesbury (1561-1632/7), y gramadegydd o Gymro a ysgrifennodd ei "Grammatica Britannica" yno ym 1593. Mae’n debyg mai iddo ef y cafodd yr adeilad presennol ei adeiladu. Bu’r tŷ yn ffermdy gyda thenant drwy gydol y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond bu’n wag o 1910 hyd nes iddo gael ei adfer gan y Landmark Trust. Gall y rheiny sydd â diddordeb ym mhensaernïaeth yr adeilad weld adluniadau yn
Houses of the Welsh Countryside, tudalen 246, ffigur 137. Mae cyfoeth o wybodaeth yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru – 74 o Gofnodion Casgliad – am y tŷ pwysig hwn sydd, ar sail blwyddgylchau, wedi cael ei ddyddio i oddeutu 1578, a chafodd ei gofnodi gan ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol ym 1950 a 1999. Mae llawer o ddelweddau ar gael ar
Coflein erbyn hyn.
|
Golwg manwl o ddrws yn Nolbelydr, yn dangos agen y bar tynnu. |
Coflein - Darganfod ein gorffennol ar-lein
Coflein yw cronfa ddata ar-lein
Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
a
thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.