Yr adeg yma llynedd roedd cwmni cynhyrchu Boom Pictures Cymru yn edrych am griw o bobl fyddai'n derbyn yr her o fyw mewn plasty Cymreig am dair wythnos, a hynny fel y byddai wedi bod yn 1910. Darlledwyd eu hynt a'u helynt ar gyfres hanes byw S4C, Y Plas ym mis Medi 2013.
Yn 2014 bydd cyfres arall, ond y tro hwn mae'r her yn wahanol. Eleni, mae'r cwmni cynhyrchu yn edrych am bobl sy'n barod am yr her o fyw yn Y Llys.
Bydd y teuluoedd a'r unigolion llwyddiannus yn gorfod gadael eu bywydau bob dydd, a chamu nôl pum canrif i fyw mewn llys o Oes y Tuduriaid yn Llys Tretŵr ger pentref Crughywel yn ne Powys.
Dyma gyfnod Harri'r VIII, cyfnod yr uchelwyr oedd yn byw bywyd moethus gan wledda, mwynhau adloniant gan feirdd a chantorion, yn hela ac yn ymwan yn erbyn ei gilydd. Yn Oes y Tuduriaid byddai'n arferol i'r gweision a'r uchelwyr fyw a bwyta yn yr un lle – bwyta efo bys a bawd cofiwch chi!
Bydd byw yn Y Llys yn golygu gwisgo, gweithio, bwyta a chwarae yn union fel y byddai'r Tuduriaid wedi gwneud yn 1525, gyda chamerâu yn dilyn yr helynt bob cam o'r ffordd ar gyfer cyfres Y Llys a gaiff ei darlledu ar S4C yn ystod yr hydref eleni.
Mae'r cwmni cynhyrchu yn chwilio am hyd at 20 o bobl i gymryd rhan, a bydd gofyn iddynt fyw yn y llys am dair wythnos dros dymor yr hydref eleni.
Y dyddiad cau yw dydd Sul 1 Mehefin. Am ragor o fanylion ac i wneud cais cysylltwch â Boom Pictures Cymru ar yllys@yllys.co.uk / 02920 671545
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.