Llun o Gastell y Gelli, yn dangos y castell o’r drydedd ganrif ar ddeg (chwith) a’r plasty o’r ail ganrif ar bymtheg (de) |
Wedi’i leoli ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yr hyn sy’n gwneud Castell y Gelli yn anarferol yw bod rhywun wedi byw ynddo’n ddi-dor ers 800 o flynyddoedd. Cafodd ei godi yn y ddeuddegfed ganrif a dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafodd ei adael yn wag. Ystyrir ei fod yn un o’r safleoedd aml-gyfnod pwysicaf ar yr ochr Gymreig i’r ffin. Mae’r castell canoloesol wedi goroesi, ac mae’r porth o’r drydedd ganrif ar ddeg a’r gatiau pren cynnar yn dal yn gyfan. Y gatiau pren, gyda’u cleddyfau croes gwreiddiol, yw un o dair neu pedair enghraifft sydd wedi goroesi ym Mhrydain.
Castell y Gelli: y porth o’r drydedd ganrif ar ddeg a’r gatiau pren cynnar |
Cafodd Tŷ’r Castell, plasty Jacobeaidd o’r ail ganrif ar bymtheg, ei adeiladu gydag ochr gorthwr y castell. Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi dyddio’r coed yn y tŷ tri-llawr drwy gyfrif blwyddgylchau, ac wedi darganfod iddo gael ei godi ym 1636. Er gwaethaf dau dân yn yr ugeinfed ganrif, mae’r adeiladwaith yn parhau’n gadarn.
Tŷ’r Castell a gorthwr pedwar-llawr y castell |
Wrth i’r gwaith ailddarganfod fynd yn ei flaen, mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod gan y castell lawer o nodweddion pensaernïol pwysig iawn, ac unigryw efallai. Bydd y muriau’n cael eu cyfnerthu, a’r nod yw atgyweirio yn hytrach nag adnewyddu. Mae’n galondid gweld bod nodweddion hanesyddol y castell yn cael y fath ofal a bod yr adeilad a’r tiroedd unwaith eto yn dod yn ganolbwynt i’r gymuned leol.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.