Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday, 28 March 2014

Swydd Wag: CYNORTHWYYDD GWEITHREDOL (Tîm Strategaeth ac Adnoddau)





Manylion llawn: CYNORTHWYYDD GWEITHREDOL (Tîm Strategaeth ac Adnoddau)
Amrediad Cyflog £22400 - £25720, 37 awr yr wythnos – penodiad parhaol

Y Comisiwn Brenhinol, sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth, yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Rydym ni’n chwilio am rywun i gynorthwyo Ysgrifennydd y Comisiwn (Y Prif Weithredwr) drwy ymgymryd â thasgau strategol a threfniadaethol. Y pwysicaf o’r rhain fydd datblygu a chydlynu Cynllun Gweithredol a Strategol y Comisiwn yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys cydlynu adroddiadau, papurau a dogfennau ar gyfer cyfarfodydd allweddol, sicrhau yr ymdrinnir yn gyflym ac effeithiol ag ymholiadau ffôn a gohebiaeth, a rhoi ynghyd a chydlynu gweithdrefnau monitro perfformiad chwarterol y Comisiwn.

Bydd gan yr ymgeiswyr hyder, hunangymhelliant a sgiliau cyfathrebu a TG da, yn ogystal â phrofiad sylweddol a/neu gymwysterau proffesiynol neu academaidd priodol mewn disgyblaeth berthnasol. Rhaid bod ganddynt brofiad sylweddol hefyd o weithio ar lefelau strategol a gweithredol, a’r gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol a phroffesiynol â staff a chysylltiadau allanol. Byddai’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn fantais.


Dychwelwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau i'r cyfeiriad isod:-


Mr S Bailey-John
Y Comisiwn Brenhinol
Plas Crug     
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1NJ

Ffôn: 01970 621230
Ffacs: 01970 621246
e-bost: stephen.bailey-john@cbhc.gov.uk
                                              
Dyddiau cau ar gyfer ceisiadau: 26 Ebrill 2014

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn gyflogwr cyfle cyfartal.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin