Dewch i swyddfeydd y Comisiwn Brenhinol ym Mhlas Crug, Aberystwyth ar nos Fercher, 20 Tachwedd, i fwynhau darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol o 5.30pm ymlaen. Am 6pm, bydd Dr Toby Driver yn darlithio ar Light, Landscape and Lasers: Revealing the Heritage of Wales from the Air. Bydd cyfle hefyd i bawb astudio trysorau o gasgliadau dihafal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru o awyrluniau yn y Llyfrgell, sgwrsio â’r staff a mwynhau mins-peis a gwin twym tymhorol a wnaed yn lleol. Bydd Dr Driver ar gael i drafod ei waith a llofnodi ei gyhoeddiad diweddaraf Cymru Hanesyddol o'r Awyr / Historic Wales From the Air. Yn y llyfr hwn ceir cipolwg o’r awyr ar dirweddau a hanes Cymru drwy gyfrwng mwy na 220 o ddelweddau godidog yn dyddio o’r 1920au hyd heddiw, o waith cynharaf ffotograffwyr preifat a milwrol i’r darganfyddiadau diweddaraf gan archaeolegwyr. Fe’ch cynghorir i gysylltu â ni i gadw’ch lle ac estynnir croeso cynnes i bawb.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.