Gorffennol Digidol 2014
Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan
12fed a 13eg Chwefror 2014
Gwesty St George, Llandudno.
Cynhadledd ddeuddydd fydd Gorffennol Digidol ac ynddi fe arddangosir technolegau digidol arloesol ar gyfer dal, dehongli a lledaenu data am safleoedd ac arteffactau treftadaeth. Hon fydd y chweched flwyddyn, a chynhelir Gorffennol Digidol 2014 yn nhref glan môr Llandudno. Cynigir cyfuniad o bapurau, seminarau, gweithdai ymarferol ac arddangosiadau i ymchwilio i’r technegau arolygu a dehongli diweddaraf a’u cymhwyso’n ymarferol at ddehongli ac addysgu treftadaeth a sicrhau ei chadwraeth.
Bydd y gynhadledd o werth i unrhyw un sydd wrthi’n gweithio neu’n astudio yn y sector archaeoleg a’r sectorau treftadaeth, addysg ac amgueddfeydd. Y bwriad yw iddi fod yn fodd i rwydweithio a chyfnewid syniadau’n anffurfiol ymhlith cynulleidfa gyfeillgar ac amrywiol o unigolion o fyd masnach, o sefydliadau’r sector cyhoeddus ac o’r trydydd sector. Bydd sesiynau Tŷ Agored hefyd yn gyfle i arddangos prosiectau neu gynhyrchion ac i siarad â mudiadau treftadaeth, datblygwyr cynhyrchion a manwerthwyr.
Y themâu eleni yw ‘Arolygu Technegol’ a ‘Chanlyniadau’.
I gael gwybodaeth am y siaradwyr a’r rhaglen ewch i http://gorffennoldigidol14.blogspot.co.uk a dilynwch #gorffennoldigidol2014
Cost cofrestru am y ddau ddiwrnod yw £69, gan gynnwys cinio a lluniaeth ar y ddau ddiwrnod. I gofrestru ewch i https://www.eventbrite.co.uk
Gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig, fe’ch cynghorir i gofrestru’n gynnar.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i gynhadledd Gorffennol Digidol 2014.
Tîm Gorffennol Digidol
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.