Fy hoff lyfr yng nghasgliadau’r Comisiwn Brenhinol yw The Atlas to the life of Thomas Telford, Civil Engineer, a gyhoeddwyd gan Payne & Foss, Llundain, ym 1838. Ond ni fyddwch chi’n dod o hyd iddo ar silffoedd y llyfrgell, nac yn adran llyfrau prin y storfeydd archifol. Dim ond copi microfiche sydd gennym – ac nid y llyfr cyfan hyd yn oed. Serch hynny, mae’r lluniadau copr-plât yn ymwneud â Phont y Borth, sef y tudalennau allweddol o’m safbwynt i, i gyd yno.
Mae’r llyfr gwreiddiol ar ffurf “ffolio eliffant” go fawr, sef 23 x 17 modfedd (58.4 x 43.1cm), a phrin iawn yw’r cyfleoedd i brynu copi ar y farchnad agored.
Medwyn Parry: Swyddog Archif a Llyfrgell
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.