Mae Casgliad Ysgol Bensaernïaeth Cymru yn cynnwys lluniadau gwaith prosiect, a rhai ffotograffau ategol, a gynhyrchwyd gan benseiri dan hyfforddiant yn yr Ysgol yng Nghaerdydd, o ddechrau’r 1960au hyd ddiwedd y 1980au. Ceir tua 5000 o eitemau unigol yn y casgliad, sy’n cofleidio arolygon pensaernïol manwl o adeiladau a safleoedd o bob math, o rai dinesig a domestig i rai crefyddol a diwydiannol. Mae tua thri chwarter yr adeiladau yng Nghymru, mae rhai mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ac mae amryw mewn gwledydd tramor, o Norwy i Malaysia, gan adlewyrchu natur ryngwladol y corff o fyfyrwyr a phwysigrwydd byd-eang y sefydliad Cymreig hwn.
Lluniadau wedi’u mesur o olygon deheuol a gorllewinol o Dŷ Rheola, Resolfen, wedi’u cynhyrchu gan Judy Nuttall o Ysgol Bensaernïaeth Cymru, ym 1976. NPRN19836, DI2009_0574, C.531052. |
Dewch i ddarganfod mwy yn ystod Diwrnod Ymwybyddiaeth o’r Archif y Comisiwn Brenhinol ar 12 Tachwedd, 2014 – diwrnod o sgyrsiau a theithiau. Agored i bawb!
I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â CHCC: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.