Mae casgliad Herbert L. North, enghraifft hynod ddeniadol o gofnodion cwmni o benseiri, yn cynnwys cynlluniau a lluniadau, a rhai ffotograffau, o ddyluniadau North ar gyfer tai, eglwysi, a chomisiynau cyhoeddus fel ysgolion. Cafodd partneriaeth North a Padmore ei sefydlu gan North, pensaer adnabyddus ac uchel ei barch a weithiai yn yr arddull Celf a Chrefft, a bu’r cwmni’n weithgar yng Ngogledd Cymru o tua 1900 hyd 1940. Mae llawer o’r adeiladau a gofnodir i’w gweld heddiw, yn enwedig yng nghyffiniau Llanfairfechan, lle’r oedd swyddfeydd y cwmni a chartref North, er na chafodd rhai o’r cynlluniau eu gwireddu. Ceir mwy na 200 o eitemau catalog unigol yn y casgliad, y mae bron pob un ohonynt wedi’i digido.
Golygon a thrawstoriadau ar gyfer Ysgol Genedlaethol Gyffin, inc a golchiad lliw ar bapur, graddfa dwy droedfedd i un fodfedd, ND2/058, DI2005_1214. |
Dewch i ddarganfod mwy yn ystod Diwrnod Ymwybyddiaeth o’r Archif y Comisiwn Brenhinol ar 12 Tachwedd, 2014 – diwrnod o sgyrsiau a theithiau. Agored i bawb!
I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â CHCC: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.