Cymerwch ran yn nigwyddiad y Darlun Mawr yn Oriel Ynys Môn ar 30 Hydref 2013, 10.00 – 12.00 a 13.00 – 15.00.
Dewch i ddarganfod awyrluniau unigryw o Ynys Môn a gafodd eu tynnu bron 100 mlynedd yn ôl gan beilotiaid eofn Aerofilms Ltd. Chwilotwch yn yr amgueddfa ac oriel gelf a dewch o hyd i’ch hoff beth yn y casgliadau. Yna gallwch helpu i greu baner anferth wedi’i seilio ar yr holl luniau a gwrthrychau rydych chi wedi’u gweld. Caiff y faner ei harddangos wedyn yn yr amgueddfa ac oriel gelf.
Mae’r sesiynau am ddim a byddant yn para am ddwy awr.
Rhaid bwcio’ch lle.
Ffoniwch (01248) 724444 neu e-bostiwch oriel@ynysmon.gov.uk
Rhosmeirch, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TQ
Bore 10.00 – 12.00
Prynhawn 13.00 – 15.00
Prosiect ar y cyd rhwng Prydain Oddi Fry a Cyngor Sir Ynys Môn.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.