Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro. |
Dyddiad y digwyddiad: 1 Tachwedd 2013, 19:30
Lleoliad: Hwlffordd
Bydd yr hanesydd pensaernïaeth Richard Suggett yn rhoi sgwrs gyda lluniau ar “John Nash ac adfer Eglwys Gadeiriol Tyddewi” am 7.30pm, Dydd Gwener, 1 Tachwedd 2013 i Gymdeithas Hanes Sir Benfro yng Nghanolfan Picton, Hwlffordd. Bydd y ddarlith yn edrych ar fyd braidd yn amheus y busnes codi adeiladau yn y cyfnod Sioraidd ac at yrfa John Nash, pensaer y rhaglaw dywysog, yn arbennig. Ceisiodd John Nash ailadeiladu ei yrfa yng Nghaerfyrddin yn dilyn methdaliad ac ysgariad rhyfedd yn Llundain. Bydd y ddarlith yn rhoi sylw i rai o dai ac adeiladau cyhoeddus llai adnabyddus Nash a godwyd yng ngorllewin Cymru yn y 1790au. Roedd yr her o sefydlogi tu blaen gorllewinol Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn drobwynt yng ngyrfa Nash. Yn sgil llwyddiant y gwaith hwn, daeth Nash yn bensaer o fri cenedlaethol.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.