Dydd Mawrth, Hydref 22 2013 bydd gwefan newydd yn cael ei lansio a fydd yn manteisio ar wybodaeth gwirfoddolwyr i gofnodi holl enwau lleoedd Cymru fel yr oeddent yn ymddangos ar Fapiau Ordnans ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd.
Mae Cymru1900Wales.org yn brosiect cydweithredol sy’n torri tir newydd. Fe’i datblygwyd ar y cyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru a Chasgliad y Werin Cymru.
Ar wefan cymru1900wales.org gofynnir i chi astudio mapiau hanesyddol Cymru, a gyhoeddwyd gan yr Arolwg Ordnans rhwng 1899 a 1908, a chofnodi lleoliad yr holl destun a ddangosir ar y mapiau; enwau trefi, pentrefi, coedydd, ffermydd, afonydd, nentydd, plastai - popeth! Mae hyd yn oed elfen gystadleuol i’r broses hon fydd yn siŵr o gael gafael ynoch; po fwyaf o enwau lleoedd a gofnodir gan wirfoddolwr, yr uchaf fydd eu safle yn y Siart Cyfranwyr.
Meddai Dr. David Parsons, Uwch Gymrawd Prosiect Enwau Lleoedd ym Mhrifysgol Cymru: “Rydym yn gobeithio defnyddio gwybodaeth gwirfoddolwyr ar-lein i gael ffurfiau hanesyddol enwau lleoedd, a chael gwybod hefyd am amrywiadau modern neu enwau eraill sy’n cael eu defnyddio’n lleol. Nid oes meddalwedd sy’n gallu casglu’r wybodaeth hon yn awtomatig, felly mae gwir angen i bobl fynd ar-lein, cofrestru a’n helpu.”
Ychwanegodd Tom Pert, Rheolwr Datblygu Ar-lein yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru: “Mae hwn yn gyfle gwych i ni gasglu llawer iawn o wybodaeth yn gyflym iawn. Trwy’r broses hon bydd lleoliad pob melin, carreg filltir, efail a doc yn cael eu cofnodi a’u defnyddio i hybu Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Bydd pob gwirfoddolwr yn ein helpu i gwblhau cofnod cyflawn o dirwedd ddiwylliannol Cymru ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd.”
Meddai’r Athro Lorna Hughes, Cadair Casgliadau Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Mae’r wefan hon yn torri tir newydd, ac mae Cymru’n arwain y ffordd i weddill y Deyrnas Unedig. Mae prosiectau cymorth torfol o’r math hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth gasglu gwybodaeth ar gyfer seryddwyr neu fiolegwyr. Rydym yn sicr y bydd y prosiect hwn yr un mor llwyddiannus, ac yn paratoi’r ffordd i ymchwil pellach a wneir ar y cyd ynghyd â phrosiectau gwirfoddoli ar-lein yn y dyfodol”.
Gwybodaeth Bellach:
Elin-Hâf post@llgc.org.uk neu (01970) 632471
Gwefan: www.cymru1900wales.org
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.